Mae Atal a Rheoli Heintiau yn bwysig iawn i ni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ein nod yw sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau i'r eithaf ledaeniad haint, cynghori ar gyfundrefnau triniaeth priodol a rhoi sicrwydd i gleifion.
Mae ein Tîm Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yn cynnwys Nyrsys Arbenigol, gwyddonydd, a staff gweinyddol yn gweithio gyda'r microbiolegydd ymgynghorol/Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau.
Ein nod yw sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i leihau i'r eithaf ledaeniad haint, cynghori ar gyfundrefnau triniaeth priodol a rhoi sicrwydd i gleifion.
Mae ein Tîm Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yn cynnwys Nyrsys Arbenigol, gwyddonydd, a staff gweinyddol yn gweithio gyda'r microbiolegydd ymgynghorol/Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau.
Yn poeni am heintiau?
Os ydych chi'n glaf yn un o'n hysbytai, neu'n berthynas i un o'n cleifion, ac yn poeni am fater haint rydym yn argymell eich bod chi'n siarad â'r nyrs sy'n gyfrifol am y ward neu'r adran neu'r tîm meddygol a fydd yn cysylltu â'r staff atal a rheoli heintiau. Os oes gennych bryder, codwch ef ar unwaith gyda staff y ward neu Uwch Nyrs yr ardal dan sylw.
Mae'n anodd iawn ateb pryderon neu fynd i'r afael ag unrhyw faterion os cânt eu codi fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Hefyd, ni allwn ymateb i alwadau ffôn dienw gan fod angen i ni wybod pwy oedd y claf a ble a phryd yr oedd yn derbyn gofal.
Os nad ydych yn glaf neu'n berthynas i glaf sy'n derbyn gofal yn BIPCAF, ni allwn ddelio â phryderon am wasanaethau iechyd na ddarperir gan ein Bwrdd Iechyd. Gall eich meddyg teulu, neu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyd roi gwybodaeth gyffredinol am heintiau.
Mae ein Tîm IPC yn treulio llawer o'u hamser ar ein wardiau yn gweithio gyda thimau clinigol a chleifion. O ganlyniad, nid yw'n bosibl iddynt weld pobl yn unigol oni bai bod apwyntiad wedi'i wneud ymlaen llaw. Hoffem bwysleisio hefyd nad yw'r tîm yn cwrdd â chynrychiolwyr gwerthu sy'n galw'n ddirybudd.
Gweler ein tudalen Hylendid Dwylo am fwy o wybodaeth.