Neidio i'r prif gynnwy

Haint y llwybr wrinol

Gan amlaf, dylai pediatregydd cyffredinol sy'n dilyn canllawiau NICE ddelio â phlant â haint y llwybr wrinol sydd wedi'u hatgyfeirio o ofal sylfaenol.
Os oes ar bediatregydd cyffredinol angen cyngor ar ymdrin â phlentyn â haint y llwybr wrinol, dylai gysylltu yn y lle cyntaf â'r meddyg SPIN lleol. Bydd hyn yn arwain at un o bedwar canlyniad:
  • Bydd y meddyg SPIN yn gallu delio â'r broblem
  • Bydd y meddyg SPIN yn ymgynghori ag arenegwr pediatrig neu wrolegydd yng Nghaerdydd neu yn Lerpwl (ar gyfer gogledd Cymru) 
  • Bydd y meddyg SPIN yn trefnu gweld y plentyn yn ei glinig ar y cyd
  • Bydd y meddyg SPIN yn trefnu atgyfeirio'r claf ar frys i Gaerdydd neu i Lerpwl (ar gyfer gogledd Cymru) 
 
Arwyddion ar gyfer atgyfeirio i / trafodaethau ag arenegwr pediatrig 
  • Creithiau dwyochrol yr arennau
  • Nam ar yr arennau 
  • Pyeloneffritis mynych
  • Plentyn dros 2 oed sy'n gwlychu'i hun yn gyson 
 
Arwyddion ar gyfer atgyfeirio i / trafodaethau ag wrolegydd pediatrig
  • Heintiau mynych y llwybr wrinol gydag adlif fesico-wreterig yn bresennol 
  • Rhwystr posibl yn y llwybr wrinol