Neidio i'r prif gynnwy

Proteinwria

Yn ddieithriad, mae clefyd arwyddocaol yr arennau yn gysylltiedig â phroteinwria. Mae'n bwysig diystyru proteinwria orthostatig trwy gael cymhareb protein / creatinin o sampl wrin yn gynnar yn y bore. Os bydd hwn yn normal, gall y claf fod yn dawel ei feddwl.
Gall camweithredu tiwbaidd hefyd arwain at broteinwria ac mae'n bosibl asesu hyn trwy wirio beta-2-microglobwlin yn yr wrin. 
 
Cyfeiriwch at y canllaw y mae eich prif ganolfan arenneg bediatrig yn ei gymeradwyo.
Os oes gan glaf broteinwria cyson (Up/Uc > 100 mg/mmol), cynghorir trafod yr achos gydag arenegwr pediatrig oherwydd gall hyn awgrymu bod angen cynnal biopsi arennol.