Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil

Mae'r astudiaethau ymchwil gynaecolegol yn Ysbyty Llandochau yn cael eu cefnogi gan Rwydwaith Ymchwil Canser Cymru www.wcrn.wales.nhs.uk a Chronfa Gynaecoleg De Cymru. 

Gallwch weld gwybodaeth isod am waith ymchwil yn Ysbyty Llandochau. Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, ffoniwch Pip ar 0292071 6045.

Gwybodaeth i gleifion

A chithau'n glaf, efallai gofynnir i chi gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil. Mae Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig (CRUK) wedi cynhyrchu ystod o wybodaeth i aelodau'r cyhoedd am astudiaethau ymchwil. Mae'r wybodaeth ar gael ar wefan CRUK.
 
Mae eich cyfranogiad mewn astudiaethau ymchwil yn gwbl wirfoddol ac os penderfynwch beidio â chymryd rhan ni fydd hynny'n effeithio ar eich gofal mewn unrhyw ffordd. Os penderfynwch gymryd rhan mewn astudiaeth, gofynnir i chi lofnodi ffurflen gydsynio bob tro, y byddwch yn cael copi ohoni. Os penderfynwch gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd, heb ddweud pam.
 
Mae pob astudiaeth yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr gan y Pwyllgor Moeseg Ymchwil ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y cyrff hyn hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Cenedlaethol.

RT3VIN – Hap-dreial o driniaeth Argroenol mewn Menywod sydd â Neoplasia Mewnepithelaidd Fylfol

Mae neoplasia mewnepithelaidd fylfol (VIN) yn gyflwr croen cyn-ganseraidd sy'n effeithio ar groen y fwlfa. Mae VIN yn cael ei rannu'n 3 cham - VIN 1, 2, 3; mae'r camau hyn yn adlewyrchu pa mor ddwfn y mae'r celloedd abnormal wedi mynd i mewn i groen y fwlfa. 
VIN 3 yw'r cam sy'n effeithio ar drwch llawn y croen. Dewisir llawdriniaeth i drin y cyflwr hwn yn aml, ond mae'n gysylltiedig â chyfraddau uchel o ailddigwydd ac fe allai fod yn anffurfiol. O gymharu, mae astudiaethau bach diweddar o driniaethau argroenol newydd wedi dangos canlyniadau addawol sy'n cyfiawnhau ymchwilio ymhellach iddynt fel dewis amgen yn lle llawdriniaeth. Nid oes unrhyw driniaethau argroenol trwyddedig ar gael ar hyn o bryd i drin VIN. 
 
Mae RT3VIN yn hap-dreial aml-ganolfan cam II o driniaeth argroenol mewn menywod sydd â VIN 3. Bydd menywod y profwyd bod ganddynt VIN 3 trwy fiopsi yn cael eu dewis ar hap i gael naill ai eli o'r enw imiquimod neu gel o'r enw cidofovir. 
 
Diben y gwaith ymchwil hwn yw pennu a oes tystiolaeth bod y naill neu'r llall o'r triniaethau argroenol hyn (neu'r ddwy ohonynt) yn weithredol, yn ddiogel ac yn ymarferol i'w defnyddio, ac felly'n cyfiawnhau ymchwilio ymhellach iddynt mewn lleoliad cam III. Mae'r treial hwn yn cael ei ariannu gan Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig ac yn cael ei gynnal gan Uned Treialon Canser Cymru (WCTU) a Grŵp Ymchwil HPV Caerdydd ar ran Prifysgol Caerdydd.
Ym mis Tachwedd 2021, Ysbyty Llandochau oedd y safle recriwtio gorau ar gyfer yr astudiaeth hon yn y wlad.

Dolenni:

Gwefan Uned Treialon Canser Cymru
Grŵp Ymchwil HPV Caerdydd - Treial RT3VIN

Astudiaeth Beilot Meddygaeth Strata CRUK

 
Un o amcanion y rhaglen beilot meddygaeth strata yw profi a ellir nodweddu tiwmorau'n foleciwlaidd fel rhan o ymarfer safonedig, cost-effeithiol, arferol wrth drin cleifion canser yn y GIG. Nod y rhaglen yw proffilio hyd at 9000 o diwmorau. I wneud hyn, bydd yn cofrestru hyd at 11000 o gleifion sydd wedi cael diagnosis o amryw fathau o ganserau. Canser yr ofari yw un o'r canserau hyn.
Un o nodau'r astudiaeth hon yw trin cleifion gan ddefnyddio rhaglen gemotherapi fwy unigol wedi'i seilio ar gyfansoddiad moleciwlaidd eu tiwmor. Gallai cleifion y mae eu tiwmorau'n dangos newidiadau moleciwlaidd a allai olygu eu bod yn addas ar gyfer mathau penodol o driniaeth gael cyfle i gymryd rhan mewn treialon clinigol ar wahân. Mae'r treialon hyn ar Bortffolio Treialon y Rhwydwaith Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRN) a Phortffolio Ymchwil Glinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR).

Dolenni:

  • Gwefan CRUK - Astudiaeth sy'n edrych ar sut i brofi'r genynnau mewn celloedd canser
  • Portffolio Treialon NCRN
  • Portffolio Ymchwil Glinigol NISCHR

Banc Canser Cymru 

Mae Banc Canser Cymru yn brosiect sy'n ceisio casglu samplau o waed a meinwe o gleifion ledled Cymru. Bydd y samplau a gesglir yn cael eu defnyddio gan wyddonwyr sy'n ymwneud â gwaith ymchwil canser. 
Efallai y bydd cleifion yng Nghymru sy'n cael meinwe wedi'i thorri ymaith, neu sydd wedi cael meinwe wedi'i thorri ymaith yn ystod llawdriniaeth neu weithdrefn fiopsi, yn cael gwahoddiad i gymryd rhan. Hoffai'r banc gasglu meinwe normal a meinwe ganser gan gleifion, felly bydd eich samplau meinwe a gwaed a samplau eraill yn ddefnyddiol ar gyfer gwaith ymchwil canser p'un a oes gennych ganser ai peidio.
Mae nyrs Banc Canser Cymru wedi'i neilltuo'n benodol i'r tîm gynaecoleg. Gall cleifion gymryd rhan ar unrhyw adeg o'u triniaeth o glinig cyn-asesu, ar ôl llawdriniaeth neu apwyntiad clinig dilynol.

Dolenni:


Dolenni Ychwanegol: