Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau Gofal Eilaidd

Amlinellir y canllawiau ar gyfer atgyfeiriadau gofal eilaidd ym Mhrotocolau Gweithredu Canser Gynaecolegol De Cymru. Fodd bynnag, i grynhoi, rydym yn fodlon derbyn llythyrau atgyfeirio trwy'r ffacs i'n rhif ffacs penodol. Er mwyn hwyluso'r broses, byddem yn croesawu cymorth gyda'r canlynol:-

Os amheuir bod gan glaf ganser yr ofari, dylid cynnwys
 
  • Dyddiad a chanlyniad Ca125/CEA (neu AFP a HCG os yw'r claf yn iau na 40 oed).
  • Sgan CT o'r abdomen
Os amheuir bod gan glaf ganser serfigol neu ganser endometriaidd, neu os yw hynny wedi'i gadarnhau, dylid cynnwys
 
  • MRI o'r pelfis ac abdomen cyfyngedig
  • Cadarnhad histolegol
Dylid hefyd cynnwys copïau o adroddiadau histolegol/radiolegol