Neidio i'r prif gynnwy

Sgan Parathyroid

Nod sgan parathyroid yw dangos swyddogaeth eich chwarennau parathyroid yn eich gwddf.

Paratoi ar gyfer y prawf

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n feichiog neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n feichiog.

Trefn yr archwiliad

Yn fuan ar ôl i chi gyrraedd, bydd radiograffydd yn chwistrellu ychydig bach o ymbelydredd i wythïen. Mae hyn yn ddiogel, heb unrhyw sgîl-effeithiau.

Ar ôl 20 munud, cewch eich cludo i'r ystafell sganio a chael 2 sgan wrth orwedd ar y bwrdd delweddu gyda'r camera wedi'i leoli'n agos at eich gwddf. Ni fydd angen dadwisgo ar gyfer y sgan hwn, dim ond tynnu mwclis os ydych yn eu gwisgo.

Ar ôl y sganiau hyn, gallwch adael yr adran am 1.5 awr. Ar ôl i chi ddychwelyd, perfformir sgan arall.

Sgan uwchsain o'ch gwddf yw rhan olaf y prawf.

Gallwch fynd adref neu yn ôl i'r gwaith ar ôl y sgan, ond ceisiwch osgoi cyswllt agos â phlant neu fenywod beichiog am weddill y dydd. Gallwch yrru car, bwyta ac yfed yn normal a pharhau i gymryd eich tabledi.

Dilynwch ni