Neidio i'r prif gynnwy

Trawsblaniad

Nyrsys Arbenigol Trawsblannu

Y Nyrsys Arbenigol Trawsblannu Aren yw Eiddwen Glyn a Sharon Warlow. Y Nyrs Arbenigol Trawsblannu Pancreas yw Dawn Chapman.

Mae Eiddwen, Sharon a Dawn yn darparu addysg a chefnogaeth i gleifion yn dilyn llawdriniaeth trawsblannu. Mae eu rôl yn cynnwys:

  • datblygu deunydd addysgol i gleifion hybu iechyd yn dilyn llawdriniaeth
  • darparu cysylltiadau rhwng y gymuned, ysbytai a thimau gofal sylfaenol
  • cymryd rhan yn y clinig trawsblannu a chefnogi cleifion
  • darparu cysylltiadau ffôn i gleifion er gwybodaeth
  • cydlynu nifer o ymchwiliadau a thriniaethau fel proffylacsis Cytomegalovirus (CMV) a chyfundrefnau meddyginiaeth gwrthimiwnedd
  • mae Dawn hefyd yn gyfrifol am ddarpar dderbynwyr pancreas/ arennau yn ystod eu cam cyn-trawsblannu a dyma yw eu prif bwynt cyswllt yn ystod eu hamser yn aros am eu trawsblaniad. 

Nyrsys Arbenigol Derbynwyr

Y Nyrs Arbenigol Derbynwyr yw Kymm O’Connor.

Mae Kymm yn darparu addysg, cefnogaeth, gwybodaeth a chwnsela i ddarpar dderbynwyr arennol a pancreas ledled De a Gorllewin Cymru. Mae gan ei rôl ddau brif faes ffocws arall: cyfathrebu, a chynnal a monitro'r gofrestr aros am drawsblaniad.

Yn ddiweddar mae Kymm wedi ymgymryd â rôl arall, sef Cydlynydd Derbynwyr Trawsblaniad, ac mae'n gweithio gyda thri chydweithiwr arall i ddarparu gwasanaeth ar alwad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Eu prif rôl yw cefnogi ein cleifion sy'n aros am organau. Mae hyn yn cynnwys hwyluso adalw organau a meinweoedd gan roddwyr mewn unedau gofal dwys a chysylltu â'r derbynnydd a threfnu'r broses drawsblannu.

Gellir cysylltu â Kymm ar 029 2074 2453 neu drwy E-bost: Kymm.O'Connor@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni