Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddwyr

Mae Ann Marsden a Rhian Cooke wedi'u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'u rôl yw codi ymwybyddiaeth o roi arennau byw fel opsiwn triniaeth gyda chleifion arennol a'u teuluoedd, yn ogystal ag ymhlith y tîm amlddisgyblaethol.

Mae hyn yn bwysig gan fod nifer y cleifion sy'n aros am drawsblaniadau arennau yn cynyddu, ond mae nifer yr organau sydd ar gael yn aros yn gyson. Mae rhodd byw yn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg organau sydd ar gael i'w trawsblannu.

Derbynnir yn gyffredinol bod trawsblannu gan roddwr byw yn cynnig yr opsiwn triniaeth gorau i gleifion â methiant arennol. Mae'r cydgysylltwyr yn cefnogi pob darpar roddwr aren trwy gydol y broses, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud dewis gwybodus.

Mae Rhian hefyd yn gyfrifol am raglen anghydnawsedd Grŵp Gwaed (ABO) ac Antigen Leucocyte Dynol (HLA). Mae hyn yn golygu y gallai claf â darpar roddwr, sy'n anghydnaws naill ai oherwydd grŵp gwaed neu fath o feinwe, gael triniaeth ychwanegol i’w ‘dadsensiteiddio’ er mwyn eu galluogi i dderbyn trawsblaniad aren anghydnaws.

Manylion Cyswllt

 

Dilynwch ni