Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol


Diweddariad COVID-19


Yn anffodus, oherwydd y pandemig Covid-19, ni fydd MWOP 2021 yn digwydd. Rydym wedi symud MWOP i blatfform rhithwir ac ar hyn o bryd rydym yn y broses o wella hyn.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich dealltwriaeth.

Os hoffech gael mynediad i'r MWOP rhithwir, e-bostiwch mwop@wales.nhs.uk 


Trefnwyd y Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol (MWOP) ar gyfer myfyrwyr Chweched Dosbarth Caerdydd a'r Fro sydd â diddordeb mewn astudio Meddygaeth yn y Brifysgol. Byddwch yn ymwybodol mai'r unig brofiad gwaith meddygol sydd ar gael yn BIP Caerdydd a'r Fro yw trwy'r Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol.
 
Cyflwynir y rhaglen o Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae'n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r proffesiwn meddygol.

Mae’n gyfle cyffrous i’r myfyrwyr arsylwi ar amgylcheddau clinigol ‘bywyd go iawn’, gan gynnwys amrywiaeth o theatrau, rowndiau ward a chlinigau. Mae pob lleoliad am bum diwrnod ac yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai gan gynnwys Hyfforddiant Efelychu, Sgiliau Clinigol a Derbyniadau Ysgol Feddygol.

Adborth gan fyfyrwyr

Gofynnir i fyfyrwyr gwblhau llyfr cofnodi myfyrdodau ac adborth am eu profiadau. Mae sylwadau blaenorol yn cynnwys:

  • Roedd yr wythnos yn fuddiol iawn gan fy mod wedi dysgu llawer ac wedi cael gwybod am lawer iawn o adrannau mewn Meddygaeth nad oeddwn i'n gwybod eu bod yn bodoli.”
  • “Mae wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol o gyflawni fy ngraddau academaidd gan fy mod bellach yn gwybod mai Meddygaeth yw’r dewis iawn i mi.”
  • “Roedd y Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol yn hynod ddefnyddiol a diddorol. Fe ddangosodd i mi bob agwedd ar Feddygaeth, yn dda a drwg. Rwyf hefyd wedi sylweddoli pwysigrwydd gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu.”
  • “Fe wnaeth yr amrywiaeth o adrannau y gwnaethon ni ymweld â nhw ganiatáu i mi brofi bywyd beunyddiol meddyg neu weithiwr proffesiynol.”

Sut i wneud cais

Mae'r broses ymgeisio a dethol bellach wedi newid. Rhaid i bob cais fynd trwy'ch ysgol neu goleg. Cysylltwch â'ch pennaeth chweched dosbarth neu gynghorydd gyrfaoedd i gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Os ydych eisiau gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwrdd â'r meini prawf canlynol:

  • Rhaid bod yn y flwyddyn academaidd berthnasol (blwyddyn 12) neu uwch
  • Rhaid bod yn astudio 3 phwnc ar Lefel A, y mae'n rhaid iddynt gynnwys bioleg a chemeg
  • Rhaid bod â gwir ddiddordeb mewn astudio meddygaeth
  • Rhaid gallu mynychu am bum niwrnod llawn MWOP
  • Rhaid bod yn astudio/byw yn ardal Caerdydd a'r Fro
  • Rhaid bod wedi cyflawni TGAU Saesneg neu Gymraeg ar Radd B neu'n uwch, Mathemateg TGAU Gradd B neu'n uwch, TGAU BB mewn Gwyddoniaeth Gwobr Ddeuol neu BB mewn Bioleg a Chemeg

Os gwelwch yn dda, cysylltwch â'r Adran Addysg Feddygol drwy e-bost, neu ffoniwch 029 2182 6307 gydag unrhyw ymholiadau.

Dilynwch ni