Neidio i'r prif gynnwy

Clefydau Heintus

Microbe

Beth Rydyn Ni'n ei Gynnig

Cynigiwn wasanaeth ymgynghori a rheoli arbenigol o ran amrywiaeth o glefydau heintus. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft: 

  • Haint HIV 
  • Hepatitis feirysol cronig
  • Twbercwlosis, a heintiau mycofacteriol eraill
  • Heintiau mewn teithwyr sy'n dychwelyd o dramor
  • Heintiau trofannol 
  • Heintiau meinwe meddal
  • Heintiau ar ôl llawdriniaeth
  • Heintiau difrifol y llwybr resbiradu
  • Heintiad cymhleth neu reolaidd y llwybr wrinol
  • Twymyn heb esboniad
  • Syndromau ôl-feirysol.

Lleoliad

Yr Uned Clefydau Heintus,
Ward A7,
Ysbyty Athrofaol Cymru,
Parc y Mynydd Bychan,
Caerdydd,
CF14 4XW

Ffôn: 029 2074 6516, neu 029 2074 2184
Ffacs: 029 2074 4866 

Cyfarwyddiadau 

  • O'r brif fynedfa (Cyntedd) ar y llawr gwaelod isaf, dilynwch arwyddion ar gyfer Wardiau a Chleifion Allanol ac ewch ar y grisiau neu'r lifft i fyny un llawr i'r llawr gwaelod. 
  • Cerddwch i lawr y coridor yn syth heibio i'r adran Cleifion Allanol a'r Adran Radioleg. 
  • Ewch ar y grisiau neu yn y lifft i fyny un llawr i'r llawr gwaelod uchaf. Byddwch ym Mloc B. 
  • Ar y llawr gwaelod uchaf, dilynwch yr arwyddion i Floc A drwy droi i'r chwith ar dop y grisiau a cherdded i lawr y coridor o Floc B i Floc A. 
  • Ewch ar y lifft i'r seithfed llawr. 
  • Ar y seithfed llawr, trowch i'r chwith allan o'r lifft ac ewch drwy'r drysau awtomatig. 
  • Mae mynedfa'r ward yn syth o'ch blaenau. Cerddwch i ddiwedd y coridor i ddesg y dderbynfa. 

Clinigau cleifion allanol 

Cynhelir ein Clinig Clefydau Heintus i Gleifion Allanol yn wythnosol bob bore Mawrth yn YAC. Hefyd, mae gennym ddau glinig ward bob wythnos lle byddwn yn gweld atgyfeiriadau brys. Dim ond staff clinigol sy'n gallu trefnu apwyntiadau i'r clinig ward.

 

Ward A7

Ward A7 yn YAC yw'r Uned Clefydau Heintus ranbarthol. Mae gan y ward nifer o ystafelloedd pwysedd negyddol, lle gellir ynysu cleifion oddi wrth gleifion eraill i atal haint rhag lledu.

 

Dilynwch ni