Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol

Bob blwyddyn, mae BIP Caerdydd a’r Fro yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i dalu am ofal iechyd i bawb sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac sydd â hawl i ofal y GIG. Ein gwaith ni yw cael y gwerth mwyaf am yr arian trwy ei wario’n ddoeth ar eich rhan.

Mae’r galw am ofal iechyd yn cynyddu. Mae triniaethau newydd sy’n aml yn ddrud yn cael eu datblygu bron pob wythnos.  Ein blaenoriaeth yw talu am y triniaethau hynny sy’n effeithiol yn glinigol, sy’n gallu dangos eu bod yn gwella iechyd pobl ac yn cynnig gwerth am arian.

O ganlyniad, dydyn ni ddim yn cynnig rhai triniaethau fel arfer ac mae’r rhain yn cynnwys dau brif gategori:

  • triniaethau sy’n newydd, yn datblygu neu heb eu profi ac nad ydynt ar gael fel arfer i unrhyw gleifion yng Nghaerdydd a’r Fro (er enghraifft, meddyginiaeth nad yw wedi’i chymeradwyo i’w defnyddio gan y GIG yng Nghymru)
  • triniaethau a ddarperir gennym ni mewn amgylchiadau clinigol penodol iawn ac nid yw pob claf â’r cyflwr yn bodloni’r meini prawf hyn (er enghraifft, cais am driniaeth gwythiennau chwyddedig)

Gall eich meddyg teulu neu eich meddyg ymgynghorol yn yr ysbyty ofyn i ni, ar eich rhan, i ariannu triniaeth fydden ni ddim fel arfer yn ei darparu ar eich cyfer.  

Mae Polisi Cymru Gyfan ar Wneud Penderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), yn nodi’n glir sut yr ymdrinnir â’r ceisiadau hyn, a sut y gellir gwneud cais.

Er mwyn helpu i'ch arwain trwy eich cyflwyniad, mae'r dudalen hon yn darparu dolenni i ffurflen gais IPFR GIG Cymru, y Polisi IPFR, Nodiadau Cyfarwyddyd Cais IPFR, fideo IPFR claf a thaflen i gleifion. Gellir gofyn am ddogfennau copi caled hefyd gan Dîm IPFR Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Mae rhagor o wybodaeth am IPFR ar gael yma.

Ein dull dewisol o gyflwyno ceisiadau am gyllid yw trwy Gyflwyniad Electronig IPFR y gellir ei gyrchu yma. Sylwch y bydd angen i chi gael eich cysylltu trwy borth y GIG a bydd angen i chi gofrestru i gael mynediad.

Ceisiadau am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw

Mae Cais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw yn gais i glaf gael triniaeth reolaidd y tu allan i wasanaethau lleol neu drefniadau cytundebol sefydledig. Bydd cais o'r fath fel arfer yn dod o fewn un o'r categorïau canlynol;

  •          Ail farn
  •          Diffyg arbenigedd lleol / darpariaeth gwasanaeth wedi'i gomisiynu
  •         Parhad gofal clinigol (yn cael ei ystyried fesul achos)
  •     Ail-atgyfeiriad yn dilyn atgyfeiriad trydyddol blaenorol
  •      Myfyrwyr

Gall eich Meddyg Teulu neu Meddyg Ymgynghorol Ysbyty ofyn i ni, ar eich rhan, i ariannu triniaeth reolaidd y tu allan i wasanaethau lleol neu drefniadau cytundebol sefydledig.

Mae Polisi Ceisiadau am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw Cymru Gyfan yn nodi'n glir sut yr ymdrinnir â'r ceisiadau hyn, a sut y gellir gwneud cais.

Mae'r dudalen hon yn darparu dolenni i Ffurflen a Pholisi Gwneud Cais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw GIG Cymru. Gellir gofyn am ddogfennau copi caled hefyd gan Dîm IPFR Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

 


Dogfennau Defnyddiol

Dogfennau IPFR

Dogfennau Defnyddiol ar gyfer Ceisiadau Cymeradwyaeth Flaenorol

Dogfennau defnyddiol eraill


Gwneud cais am driniaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

Daeth “Gweithdrefn Cymru Gyfan ar gyfer Cleifion o Gymru sy’n Cael Triniaeth yng Ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd” i ben am 11pm ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae llwybr ariannu S2 yn parhau fel o'r blaen ac eithrio gwledydd EFTA a'r Swistir. 

I gael rhagor o fanylion a chyngor, cysylltwch â’r Tîm IPFR drwy CAV.IPFR@wales.nhs.uk

Cwestiynau am eich triniaeth

Y person gorau i siarad ag ef am eich gofal iechyd ac a ddylech fod yn gwneud IPFR neu Gais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw am driniaeth yw eich Meddyg Teulu neu Feddyg Ymgynghorol yn yr Ysbyty.


Manylion Cyswllt

Tîm Comisiynu CCCU Caerdydd a'r Fro
Yr 2il Lawr, Tŷ Woodland
Ffordd Maes-y-Coed
Caerdydd
CF14 4HH

E-bost:  CAV.IPFR@wales.nhs.uk
Ffôn: 02921 836535
 

 

Dilynwch ni