Neidio i'r prif gynnwy

Pa gyrsiau sydd ar gael?

1. Byw'n dda gyda diabetes - cwrs chwe wythnos o 2.5 awr yr wythnos. Dros y chwe wythnos, edrychwn ar effeithiau ein ffyrdd o fyw ar lefelau glwcos yn y gwaed. Mae'r cwrs yn annog cyfranogwyr i edrych ar eu ffordd o fyw ac i wneud newidiadau bach a fydd yn helpu i atal cymhlethdodau diabetes. 

2. Byw'n Dda gyda Chyflwr Iechyd - cwrs chwe wythnos o 2.5 awr yr wythnos. Dros y chwe wythnos, edrychwn ar y symptomau cyffredin a ddaw yn sgil cyflwr iechyd tymor hir. Rydym yn edrych ar wahanol offer a thechnegau y gallwn eu defnyddio i dorri'r cylch symptomau a dysgu rheoli ein llesiant.

3. Byw'n Dda gyda Phoen - cwrs hunanreoli chwe wythnos. Mae poen cronig neu barhaus yn boen sy'n parhau am fwy na 12 wythnos er gwaethaf meddyginiaeth neu driniaeth. Gall poen cronig hefyd effeithio ar bobl sy'n byw gyda: arthritis, ffibromyalgia, coluddyn llidus a phoen cefn. Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r Cylch Symptomau Poen trwy ddefnyddio offer hunanreoli sydd naill ai wedi'u cymryd/addasu o'r cwrs Byw'n Dda gyda Chyflwr Iechyd yn ogystal â defnyddio technegau fel y Rhaglen Symud Hawdd (ASE) - ffordd bleserus a diogel i wella hyblygrwydd.

 
Dilynwch ni