Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cleifion Allanol Diabetig

 

 

Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW)


Clinigau Diabetes Cyffredinol 

Bore dydd Llun - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol
Prynhawn dydd Llun - Dan arweiniad Cofrestrydd Arbenigol
Bore dydd Mawrth - Dan arweiniad Cofrestrydd Arbenigol
Bore dydd Mercher - Dan arweiniad Cofrestrydd Arbenigol
Prynhawn dydd Mercher - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol
Prynhawn dydd Iau - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol

Clinig Wlserau Traed

Prynhawn dydd Mawrth
Bore dydd Iau

Clinig Oedolion Ifanc

Bob tri mis - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol  
Cysylltwch â ni am yr union ddyddiadau ar 02921 848969

Clinig Pwmp Inswlin

Bob tri mis - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol 
Cysylltwch â ni am yr union ddyddiadau ar 02921 848969

Clinig Diabetes Cyffredinol, Prif Adran Cleifion Allanol

Bore dydd Iau, Ystafell 3

Clinig Diabetes Cyn-geni, Adran Cyn-geni 

Bore dydd Mawrth


Ysbyty Athrofaol Llandochau (UHL)
 

Clinigau Diabetes Cyffredinol, y Ganolfan Diabetes

Bore dydd Llun - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol
Prynhawn dydd Mawrth - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol
Prynhawn dydd Mercher - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol
Bore a phrynhawn dydd Iau - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol

Clinig Diabetes Cyn-geni, Adran Cyn-geni

Bore dydd Mercher - Dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol

Clinig Traed Diabetes

Y trydydd dydd Gwener o bob mis.
Cysylltwch â chydlynydd y clinig ar 029 2071 5118 i gael y dyddiadau.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn ymweld â chlinig cleifion allanol, fel arfer?

O leiaf bythefnos cyn eich apwyntiad yn y clinig, bydd angen i chi fynd i'r ganolfan am brawf gwaed. Bydd y prawf hwn yn helpu i asesu eich rheolaeth o'r diabetes, a gallai gynnwys eich lefel colesterol a mesuriadau eraill a fydd yn helpu â'ch rheolaeth hefyd.

Y rhif ffôn i'w ffonio ar gyfer y prawf gwaed yw 029 2074 2987 (UHW) neu 029 2071 5118 (Llandochau).

  • Wrth gyrraedd, rhowch wybod i'r derbynnydd/cydlynydd y clinig.
  • Bydd eich nodiadau'n cael eu rhoi i nyrs cymorth y clinig diabetes, a fydd yn galw eich enw ac yn mynd â chi i'r ardal driniaeth.
  • Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei fesur.
  • Bydd gwaed yn cael ei gymryd o'ch gwythïen i asesu eich rheolaeth hirdymor o'r diabetes. Gallai hyn gynnwys eich lefel colesterol a mesuriadau eraill sy'n helpu â'ch rheolaeth.
  • Bydd eich taldra a'ch pwysau'n cael eu cofnodi.
  • Bydd eich craffter gweledol (mae hyn yn profi eich golwg o bell) yn cael ei fesur, os yw'n berthnasol.
  • Bydd eich wrin yn cael ei brofi a'i anfon i'r labordy am brawf protein, os yw'n berthnasol.
  • Bydd nyrs cymorth y clinig diabetes yn mynd â chi yn ôl i'r dderbynfa i aros am y meddyg, a fydd yn eich galw i mewn i'r ystafell ymgynghori wedi hynny.
  • Efallai y bydd angen i chi weld y nyrs diabetes arbenigol a/neu ddietegydd ar ôl yr ymgynghoriad.

Beth ddylech chi ddod ag ef gyda chi?

  • Llythyr apwyntiad y clinig.
  • Sampl wrin ben bore.
  • Copi o'ch meddyginiaeth gyfredol, lle bo hynny'n bosibl.
  • D.S: Eich cofnod o'ch darlleniadau siwgr gwaed diweddar, lle bo hynny'n bosibl, a'ch mesurydd glwcos gwaed.
  • Os bydd o gymorth i chi, cofnodwch unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn yn eich apwyntiad, a dewch â nhw gyda chi i'ch atgoffa.
Dilynwch ni