Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion Mewnol Dermatoleg

Cyflyrau

Mae mwyafrif y cleifion yn cael eu derbyn gyda soriasis neu ecsema helaeth, ond mae yna gleifion hefyd â chyflyrau dermatolegol prinnach fel pemphigoid pothellog a hefyd wlserau coesau nad ydyn nhw'n iacháu.

Bydd nyrs hefyd yn ymweld ag unrhyw glaf mewnol yn yr ysbyty sydd â phroblemau dermatolegol. Mae hyn hefyd yn cynnwys plant sy'n cael eu derbyn gyda chyflyrau dermatolegol.

Ward

Mae'r ward ar ail lawr Tŷ Morgannwg, Ysbyty Athrofaol Cymru

Ffôn: 029 2074 6343
Ffacs: 029 2074 5161
Rheolwr ward: Uwch Nyrs Louise Robinson
Oriau ymweld: rhwng 3pm ac 8pm
Nifer y gwelyau: 10 gwely

Sylwadau cyffredinol

Mae bob claf angen triniaethau i'r croen bob dydd. Mae gan bob un ohonyn nhw drefn o driniaeth i'w dilyn bob dydd a fydd yn cynnwys ymolchi neu gawod bob dydd a ddefnyddio esmwythyddion yn lle sebon, yna triniaeth weithredol fel steroid croen neu gol-tar.

 

Eich Arhosiad yn yr Ysbyty

 

O'ch Derbyn i'ch Rhyddhau - Beth Sy'n Digwydd Fel Arfer

Cleifion Allanol

Cewch eich asesu gan uwch staff meddygol neu nyrs glinigol arbenigol. Os oes angen eich derbyn, cewch eich hysbysu, a bydd y ward hefyd yn cael gwybod am yr angen i'ch derbyn a bydd yn asesu pa mor gyflym y mae angen eich derbyn.

Cyn eich derbyn

Unwaith y bydd y ward yn ymwybodol bod ganddyn nhw wely i chi, cysylltir â chi naill ai dros y ffôn neu drwy lythyr. Mae hyn fel arfer 1-3 diwrnod cyn eich derbyn. Gofynnir i chi ffonio ar y diwrnod derbyn i sicrhau bod y gwely ar gael.

Diwrnod Derbyn

Rhaid i chi ffonio'r ward am oddeutu 9am a bydd y staff yn eich hysbysu o ba amser i ddod i mewn. Mae hyn fel arfer rhwng 11am-12pm. Byddant hefyd yn gofyn i chi ddod â'ch meddyginiaeth gyfredol a hen ddillad i mewn gyda chi ar gyfer yr amser y rhoddir hufenau ar eich croen (os yw'n berthnasol). Ar ôl eich derbyn, byddwch yn cael eich gweld gan feddygon a nyrsys y ward a bydd y driniaeth yn dechrau.

Yn gyffredinol, mae cleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty os yw eu cyflwr yn ddifrifol, ac os y byddai'r cleifion yn elwa o driniaeth a dysgu am eu clefyd.

Eich rhyddhau

Bydd eich ymgynghorydd neu uwch gofrestrydd yn rhoi gwybod ichi pryd y gallwch gael eich rhyddhau. Fel arfer, dywedir wrthych y diwrnod cynt.

Diwrnod Rhyddhau

Bydd angen i chi weld fferyllydd y ward ar y diwrnod hwn, a fydd yn dosbarthu'ch meddyginiaeth i chi fynd adref, fel arfer erbyn 11am. Byddwch yn cael rhestr o driniaethau i barhau â nhw a llythyr i'ch meddyg teulu. Yna bydd eich apwyntiad claf allanol nesaf yn cael ei anfon yn y post.

 

Dilynwch ni