Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am Rywun sydd â Dementia

Yn aml, mae addysg yn gallu helpu pobl i ofalu am rywun sydd â dementia, trwy roi'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon. Dysgwch fwy am gyfleoedd addysg ar gyfer y rhai sy'n gofalu am bobl sydd â dementia yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

 

Stori Jackie

Aeth Jackie a George, o Landaf, i Solace, a roddodd gyfle iddynt rannu profiadau â gofalwyr eraill a phobl sy'n byw gyda dementia. Fe glywson nhw hefyd gan bobl a allai esbonio pa gymorth oedd ar gael iddynt. Fe ddysgon nhw am asesiadau gofalwyr, casgliadau bin a budd-daliadau lles, pethau nad oedden nhw wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen.

Roedd cael asesiad gofalwyr yn anodd iawn i Jackie. Ar ôl siarad â gofalwyr eraill, mae hi'n gwybod eu bod nhw wedi profi heriau tebyg hefyd. Yn ei hachos hi, roedd Solace wedi'i harwain trwy'r broses.

Dywedodd Jackie bod rhywfaint o'r cymorth anffurfiol wedi bod yn fwyaf defnyddiol. Fe wnaethon nhw gyfarfod â phobl o'r Gymdeithas Alzheimer’s yn Ysbyty Dewi Sant a dysgu am gyrsiau gofalwyr a gweithgareddau cymdeithasol fel y Côr Forget Me Not a Chaffis Dementia.

 

Mae Jackie'n dweud bod hyn wedi bod yn achubiaeth iddi hi a George: 

“Roedd gwybod bod rhwydwaith o gymorth yn gefn i ni wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Os oedd rhywbeth yn mynd o'i le, roedd pobl yr oeddech chi'n eu gweld yn rheolaidd y gallech ofyn iddyn nhw am gymorth. Fel arall, rydych chi ar eich pen eich hun gartref.”

 

Mae hi hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cymdeithasu, gan gofio ei bod hi a George wedi gallu mwynhau mynd i fwytai yn ystod dyddiau cynnar ei ddiagnosis a bod aelodau staff wastad yn gefnogol ac yn gydymdeimladol. Mewn cyferbyniad, fe welodd hi fod rhai ffrindiau wedi ymbellhau oddi wrthynt a pheidio â'u gwahodd i ddigwyddiadau cymdeithasol mwyach, a ychwanegodd at y teimlad o ynysu.

 

Stori David

Rhoddwyd David a Joyce mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Alzheimer's. Fe wnaethon nhw ffrindiau a chafodd David ddeunyddiau darllen a roddodd fwy o wybodaeth iddo am ddementia Joyce. Fe welodd hefyd y gallai eu ffonio nhw unrhyw bryd i gael cymorth.

Rhoddodd Age Connects ac Age Cymru gyngor ymarferol ar ewyllysiau a phŵer atwrnai.

Wedi i Joyce gael ei hanafu'n ddifrifol ar ôl cwympo sawl gwaith, daeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymweld â nhw ac atgyfeirio'r tîm Cychwyn a'r tîm Ymateb iddynt. O ganlyniad i hyn, cawsant asesiad gofalwyr, a ddaeth i'r casgliad eu bod yn gymwys ar gyfer gofal cymunedol.

Mae David yn argymell bod unrhyw un y mae dementia'n effeithio arno yn siarad â'i feddyg teulu a chysylltu â Solace, yn ogystal ag Age Connects. Fe gawson nhw gymorth gwych gan Diverse Cymru, y Gymdeithas Alzheimer’s a'r staff yn Ysbyty Rookwood. Mae'n canu clodydd y Côr Forget Me Not hefyd.

 

Stori Bill

Mae Bill ac Yves wedi cael cymorth amhrisiadwy gan Crossroads, sy'n darparu gwasanaeth eistedd gyda phobl fel bod Bill yn gallu mynd i'r eglwys a chwarae bowls. Yn ogystal â rhoi seibiant iddo, mae hyn hefyd yn ei gadw'n ffit ac abl fel ei fod yn gallu parhau i ofalu am Yves. Roedd eu gweithiwr cymdeithasol yn gefnogol iawn hefyd. Yn ogystal, cafodd gymorth gan Nexus, y clywodd amdanynt mewn llyfryn a gododd yn ei fferyllfa.

Mae Bill yn pryderu am Yves yn derbyn gofal mewn cartref gofal. Byddai'n well ganddo barhau i ofalu amdani gartref, gan ei fod yn credu mai dyna'r lle gorau iddi, ond fe allai hyn ddod yn fwyfwy anodd wrth i'w salwch ddatblygu.

Mae Bill yn cynghori gofalwyr eraill i dderbyn y cymorth sydd ar gael, ond hefyd bod yn daer pan fydd angen.

Mae'n dweud: “Ceisiwch gymaint o gyngor ag y gallwch. Mae cymorth ar gael. Gwnewch niwsans o'ch hun os oes angen. Daliwch ati. Nid yw'n hawdd, ond mae'n rhaid i chi ei wneud.”

Dilynwch ni