Neidio i'r prif gynnwy

Dementia: Diwedd Oes

Mae cynorthwyo rhywun sydd â dementia tua diwedd ei oes yn gallu bod yn eithriadol o anodd, ond gall y cyfnod ar ôl marwolaeth anwylyd fod yr un mor anodd. Yn ogystal â delio â galar, mae llawer o ofalwyr yn cael trafferth addasu i fywyd lle nad ydynt yn treulio'u diwrnodau yn gofalu am rywun mwyach, oherwydd y bu'n rhan mor fawr o'u bywyd.

Tua diwedd bywyd George, roedd Jackie yn ei chael hi'n anodd iawn ymdopi. Roedd George yn dibynnu arni fwyfwy i'w helpu i gerdded ac roedd gofalwyr yn dod i'r tŷ bob dydd.

Aeth George i Lys Oldwell ddeuddydd yr wythnos am dair blynedd, a roddodd rywfaint o seibiant i Jackie a'i galluogi i'w gadw ef gartref am gyfnod hwy o lawer.

 

Yn dilyn marwolaeth George yn 2015, cafodd Jackie gymorth gan NexusSolace Chôr Forget Me Not, yn ogystal â'i ffrindiau a'i theulu. Mae hi'n dal i fynd ac yn ei gweld yn ddefnyddiol bod o gwmpas pobl sydd â phrofiadau tebyg, sy'n deall beth mae hi wedi bod trwyddo.

Dilynwch ni