Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr Iechyd Arbenigol

Gair amdanom Ni 

Mae Ymwelwyr Iechyd Arbenigol i blant ag anghenion cymhleth. Darperir y gwasanaeth hwn gan dîm o Ymwelwyr Iechyd sy'n gweithio gyda phlant ag anghenion iechyd cymhleth a/neu anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'r tîm yn ymdrin â Chaerdydd a'r Fro ac yn gweithio o Ganolfan Blant Dewi Sant ac Ysbyty'r Barri yn y drefn honno.

Mae'r Ymwelydd Iechyd Arbenigol yn darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn rhoi cyngor arbenigol, ac yn gallu bod yn weithiwr allweddol i gydgysylltu dull amlddisgyblaethol ac integredig gan gyfrannu at becyn gofal cyfannol i fodloni anghenion y plentyn. Ceir felly ddull amlasiantaeth o weithio ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn unol â Deddf Tribiwnlys Addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018.  

Cliciwch yma i ymweld â'n Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Sut mae cael at y gwasanaeth 

Daw atgyfeiriadau i'n gwasanaeth fel arfer gan Ymwelydd Iechyd y teulu neu ymgynghorydd paediatrig y plentyn. Mae plant sy'n bodloni'r meini prawf atgyfeirio yn 0-11 oed ac mae ganddynt anghenion iechyd cymhleth a/neu anghenion dysgu ychwanegol. 

Os teimlwch fod angen y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Arbenigol arnoch chi a'ch plentyn neu blentyn rydych yn gofalu amdano, siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol, gweithiwr cymdeithasol a ddyrannwyd neu weithiwr proffesiynol mewn Addysg, fel athro/athrawes neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dilynwch ni