Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc

Amdanyn Ni

Mae’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

 

Ein cenhadaeth yw agor ein mynediad a chynyddu ein cyrhaeddiad

Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un nawr ofyn am fynediad i therapi galwedigaethol heb orfod mynd trwy weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Rydym yn gweithio i ddarganfod a datblygu adnoddau a fydd yn cefnogi ac yn grymuso plant, pobl ifanc a theuluoedd i gymryd rhan yn eu bywyd a chynyddu eu hannibyniaeth. 

I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910. Plis gweler y dudalen we hon ar ein gwefan Cadw'n Iach Fi fwy o fanylion ar y broses cais am gymorth.

 

Beth ydyn ni’n ei wneud?  

Rydyn ni’n gweld plant a phobl ifanc 0 i 18 oed sy’n cael trafferth wrth gyflawni tasgau galwedigaethol.

Gellir disgrifio tasgau galwedigaethol fel hyn:

  • Pethau rydyn ni angen eu gwneud – gwisgo, ymolchi, bwyta, cysgu a gofal personol
  • Pethau sy’n rhaid i ni eu gwneud – tasgau a gwaith ysgol
  • Pethau rydym eisiau eu gwneud–chwarae a hamddena

Rydyn ni’n ystyried pam nad yw rhywbeth yn datblygu ac yna rydyn ni’n chwilio am y ffyrdd gorau i helpu’r unigolyn i wneud cynnydd. Er enghraifft, gall cydgysylltu gwael effeithio ar sut mae botwm yn cael ei gau, felly gall defnyddio botymau mwy neu ddatblygu sgiliau echddygol manwl arwain at feistroli botymau.

Gwyliwch ein fideo ‘Deall Therapi Galwedigaethol’

 

Pam rydyn ni’n gwneud hyn?

Rydyn ni eisiau cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni tasgau galwedigaethol a’u meistroli.

Rydyn ni eisiau cefnogi’r rhai sy’n helpu’r plentyn neu’r person ifanc – rhieni, gofalwyr ac athrawon – i wybod beth sy’n gweithio orau i ddatblygu’r tasgau galwedigaethol hyn.

Rydyn ni eisiau magu cyd-ddealltwriaeth o beth i’w ddisgwyl os oes oedi datblygiadol neu anabledd gan blentyn/person ifanc ac archwilio sut i addasu tasg i sicrhau bod y plentyn/person ifanc yn gallu cymryd rhan gymaint â phosibl.

 

Sut mae gwneud hyn?  

Rydyn ni’n pwyso a mesur sut mae’r amgylchedd yn helpu i gefnogi datblygiad galwedigaethol.

  • Ydy’r alwedigaeth ar y lefel ‘iawn’ ar gyfer pob unigolyn?
  • Beth yw oedran a chyfnod datblygiad y plentyn?

Rydyn ni hefyd yn meddwl am unigrywiaeth pob plentyn a pherson ifanc.

  • Beth maen nhw wedi ei brofi?
  • Pa sgiliau sydd ganddyn nhw’n barod?
  • Os oes ganddyn nhw anabledd neu rwystr, sut mae hynny’n effeithio ar eu cyfranogiad galwedigaethol?

Rydyn ni’n ystyried sut mae’r pethau hyn yn rhyngweithio, ac yna rydyn ni’n gweithio gyda chi i waredu rhwystrau a meithrin sgiliau a chyfleoedd i gael mwy o gyfranogiad galwedigaethol. Rydyn ni hefyd yn siarad â’r plentyn neu’r person ifanc a’u rhieni neu ofalwyr ynghylch eu galwedigaethau. Efallai y byddwn yn siarad ag athrawon y plentyn a staff iechyd eraill hefyd fel meddygon, therapyddion iaith a lleferydd, seicolegwyr a ffisiotherapyddion.

Rydyn ni’n defnyddio gemau a gweithgareddau i’n helpu ni i ddeall beth sy’n bwysig i’r unigolyn a beth maen nhw eisiau ei newid.

Rydyn ni’n archwilio rhinweddau sylfaenol pob plentyn a pherson ifanc. Rydyn ni’n canfod sut mae eu datblygiad synhwyraidd ac echddygol yn effeithio ar ddatblygiad galwedigaethau a’u hiechyd meddwl a lles.

Ble rydym ni?

Mae ein therapyddion galwedigaethol yn gweithio mewn nifer o dimau a lleoliadau sy’n cynnwys:

  • Tîm Argyfwng Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
  • Tîm Anableddau Dysgu Plant a Phobl Ifanc
  • Gwasanaeth Cymorth Dwys i Blant (CISS)
  • Canolfannau Plant Cymunedol
  • Tîm Niwroddatblygiadol
  • Tîm Clefyd Esgyrn Metabolig Paediatrig
  • Gwasanaeth Rhiwmatoleg Pediatrig
  • Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol
  • Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
  • Ysgolion Arbennig mewn Caerdydd a’r Fro
     

 

 
 
Dilynwch ni