Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Ysgol

Mae timau Nyrsio Ysgol yn cynnwys staff aml-sgiliau gan gynnwys Gweithwyr Cymorth, Nyrsys Staff Cymunedol (mae'r ddau'n gweithio'n bennaf mewn Ysgolion Cynradd) a Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol cymwys (yn gweithio gydag Ysgolion Uwchradd). Maent i gyd yn ymdrechu i weithio gyda disgyblion, teuluoedd ac ysgolion i wella canlyniadau iechyd a lles.

Mae timau Nyrsio Ysgol wedi'u lleoli yn y gymuned, mae tair canolfan yng Nghaerdydd a'r Fro. Yn aml, nhw yw'r pwynt cyswllt cyntaf pan fydd angen cyngor a chymorth ar deuluoedd neu bobl ifanc am faterion iechyd corfforol a/neu emosiynol. Eu rôl yw darparu gwybodaeth iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, hyrwyddo/cynghori ar ffyrdd iach o fyw a galluogi'r plentyn/person ifanc i reoli pryderon iechyd presennol. Yn y modd hwn maent yn gallu elwa'n llawn ar eu cyfleoedd addysgol ac yn cael eu grymuso i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae Gwasanaeth Nyrsio Ysgol Caerdydd a'r Fro yn cael ei ddarparu drwy ddull sy'n seiliedig ar hawliau yn unol â CCUHP (1989). Rydym hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i helpu i adeiladu gwytnwch ac i eirioli dros y rhai sy'n fwy agored i niwed oherwydd pryderon diogelu neu anghenion ychwanegol.

Mae nyrsys ysgol yn gallu darparu cymorth i bob plentyn oedran ysgol a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu haddysgu'n ddewisol gartref neu'n cael eu haddysgu y tu allan i amgylchedd ysgol ffurfiol. 

Beth mae nyrsys ysgol yn ei wneud?

Iechyd Corfforol

Rydym yn darparu'r wybodaeth/cyngor diweddaraf i deuluoedd, plant a phobl ifanc ac yn cyfeirio neu'n atgyfeirio at wasanaethau arbenigol eraill os bydd angen. Nod y gwasanaeth wrth symud ymlaen yw darparu sesiynau addysg iechyd/hybu iechyd ar ystod o bynciau - cyngor ar fwyta’n iach/bwyta ffyslyd /glasoed/iechyd rhywiol/materion ymataliaeth a mynd i’r tŷ bach/materion ymddygiad/materion iechyd emosiynol, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Rydym yn darparu cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n destun gweithdrefnau amddiffyn plant ac sydd ag anghenion iechyd parhaus, sydd angen mewnbwn gan nyrs ysgol.

Mae Nyrsys Ysgol hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ymataliaeth haen un i rieni/gofalwyr, cyn ceisio cymorth drwy’r gwasanaeth ymataliaeth pediatrig.
 

Cyflwyno'r Rhaglenni Sgrinio, Gwyliadwriaeth ac Imiwneiddio Cenedlaethol yn yr ysgol

Rydym yn cynnal Adolygiad Iechyd i Blant Ifanc yn yr ysgol (SEHR), ar gyfer plant oed derbyn sy'n cynnwys sgrinio taldra, pwysau a golwg. Cynhelir profion clyw gan dîm awdioleg ar wahân. Yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae'r data a gesglir yn cyfrannu at Raglen Mesur Plant Llywodraeth Cymru

Diben yr Adolygiad Iechyd yw asesu anghenion iechyd y plant ar ddechrau'r ysgol, hybu iechyd a lles gan sicrhau bod plant yn barod i'r ysgol. Darperir gwybodaeth iechyd cyffredinol a gwybodaeth gyswllt ar gyfer y timau nyrsio ysgol i rieni/gofalwyr.
 

Hyrwyddo lles emosiynol a chefnogi anghenion iechyd meddwl plant oedran ysgol a phobl ifanc

Mae rôl y Nyrs Ysgol yn ganolog i gefnogi lles emosiynol plant a phobl ifanc. Rydym yn darparu Hybiau Iechyd Pobl Ifanc wythnosol mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn yn rhoi cyfle cyfrinachol i bobl ifanc ofyn am gyngor ar gyfer eu pryderon iechyd corfforol a/neu emosiynol. Fel arall, gallant gysylltu â'r gwasanaeth trwy ChatHealth (gweler isod).

Mae gan y gwasanaeth ddwy Nyrs arbenigol sydd wedi’u hyfforddi i reoli lles emosiynol. Maent hefyd yn darparu hyfforddiant i gefnogi'r Nyrsys Ysgol ac yn darparu cefnogaeth fwy unigol i bobl ifanc agored i niwed sy'n mynychu Unedau Cyfeirio Disgyblion a'r rhai sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn ddewisol.

Mae disgyblion sy'n mynychu'r Hybiau Iechyd yn gallu cael mynediad at ystod eang o gymorth ar bynciau gan gynnwys anhwylderau bwyta, iechyd rhywiol a Cherdyn-C, hunaniaeth o ran rhywedd a diogelu.

Mewn ysgolion cynradd rydym yn cynnig cymorth gan nyrs ysgol i rieni/gofalwyr trwy ein gwasanaeth neges destun Parentline (gweler isod). Gall nyrs yr ysgol hefyd gwrdd â rhieni os oes angen i drafod unrhyw anghenion iechyd

Darparwn hyfforddiant anaffylacsis rhaeadru i staff ysgol a darparwn arweiniad a chymorth i staff ysgol ar gyfer plant ag anghenion iechyd ychwanegol.
 

ChatHealth

Gall pobl ifanc 11-19 oed ddefnyddio'r gwasanaeth Nyrsys Ysgol drwy anfon neges destun i gael cyngor a chymorth iechyd cyfrinachol yn ddi-enw. Neges destun: 07520 615718

Dydd Llun - Gwener 8:30 am - 4:30 pm (ac eithrio gwyliau banc).

 

Parentline

Gall rhieni a gofalwyr sydd â phlant 5-11 oed gael mynediad at nyrs ysgol i gael cyngor a chymorth ynghylch ystod eang o broblemau iechyd. Nid yw hwn yn wasanaeth diagnostig ond gallwn ddarparu gwybodaeth, e.g. ynghylch lles emosiynol, bwyta'n iach, materion ymataliaeth.

I gysylltu â nyrs ysgol, anfonwch neges destun at 07312 263178. Bydd negeseuon testun yn cael eu monitro rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) a nod tîm Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yw ymateb o fewn un diwrnod gwaith. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn ystod gwyliau ysgol.

 

Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yn cynorthwyo'r tîm Imiwneiddio yn yr Ysgol i ddarparu brechiadau ffliw tymhorol a brechiadau HPV

Ffliw: Mae pob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol yn gymwys a dylent gael brechiad rhag y ffliw bob blwyddyn. Mae'r gwasanaeth nyrsio ysgol wedi bod yn cynnig y brechiad ers rhai blynyddoedd bellach fel rhan o'r rhaglen ffliw genedlaethol. Gall y ffliw fod yn annymunol ac weithiau bydd yn achosi cymhlethdodau difrifol. Bydd brechu eich plentyn hefyd yn helpu i amddiffyn poblogaethau sy’n agored i niwed ac yn helpu’r ffliw rhag lledaenu i’r cymunedau ehangach.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch nyrs ysgol neu ewch i GIG 111 Cymru - Brechiadau (wales.nhs.uk).

Feirws Papiloma Dynol HPV: Cynigir y brechlyn HPV i bob merch a bachgen rhwng 12 a 13 oed (blwyddyn ysgol 8) a’r unigolion hynny a allai fod wedi methu eu brechiad ond sy’n parhau i fod yn gymwys hyd at 25 oed.

Mae'r brechiad HPV yn helpu i amddiffyn pobl ifanc rhag cael eu heintio gan y Feirws Papiloma Dynol (HPV). O fis Medi 2023 dim ond 1 dos o HPV a gynigir fel yr argymhellir gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).

Mae'r feirws hwn yn cynyddu'r risg o ddatblygu rhai mathau o ganser yn ddiweddarach mewn bywyd, fel canser ceg y groth, rhai canserau'r geg a'r gwddf, a rhai canserau'r anws ac ardaloedd yr organau cenhedlu. Nid yw'r brechlyn HPV yn amddiffyn rhag clefydau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'ch Nyrs Ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am imiwneiddiadau plentyndod, ewch i Imiwneiddio Plentyndod - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru).

 

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr am achosion o'r frech goch a brechiad MMR

 


Cysylltwch â ni

Tîm Nyrsio Ysgol y Fro: (Ysbyty'r Barri) — 01446 704114

Tîm Nyrsio Ysgol Gorllewin Caerdydd: (Gwasanaethau'r Gorllewin, Grand Avenue, Trelái) — 02921832204

Tîm Nyrsio Ysgol Dwyrain Caerdydd: (Hyb Llesiant Llanedeyrn) — 02921833114

Uwch Nyrs ar gyfer Nyrsio Ysgol: Sandra Dredge 

Rheolwyr Gweithredol: Andrea Cooper, Cath Cawte, Carol Rogers
 

(Diweddarwyd Rhagfyr 2023)

Dilynwch ni