Neidio i'r prif gynnwy

Arenneg Bediatreg

Mae'r gwasanaeth Arenneg Bediatreg yn YAC yn darparu gofal arenneg lefel uchel i blant yn ne a chanolbarth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaeth cleifion allanol a chleifion mewnol, gyda chleifion trawsblaniad yn cael eu cyfeirio i Ysbyty Plant Bryste. Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yn y Ganolfan Arennau Plant a dyma safle'r gwasanaeth clinigau cleifion allanol a gwasanaeth haemodialysis.

Rydym yn darparu cefnogaeth a gwaith dilynol i blant sydd angen therapi amnewid arennol (dialysis neu drawsblannu). Nod y gwasanaeth yw darparu'r gofal hwn mor agos â phosibl i gartref y plentyn ac i'r perwyl hwn mae tîm cryf yn darparu gwasanaeth allgymorth, ochr yn ochr â chlinigau eraill. 

Lleoliad

 

Ein Gwasanaethau

Ar gyfer Cleifion, rydym yn darparu:

  • gofal arenneg eilaidd a thrydyddol
  • haemodialysis ysbyty i gleifion allanol.

Clinigau Cleifion Allanol

Mae clinigau cleifion allanol wedi'u lleoli yng Nghanolfan Arennau Plant KRUF yn yr adran blant yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Ffôn: 029 2074 4844

Diwrnod Amser ac Amlder Math
Llun am Clinig arennol cronig
Llun pm Clinig cleifion newydd
Maw am (bob yn ail wythnos) Clinig arenneg cyffredinol
Maw am (bob yn ail wythnos) Clinig arenneg cyffredinol
Maw pm (misol) Clinig pledren niwropathig
Mer am Clinig Methiant Arennol (ESRD) cam olaf
Mer am (misol) Clinig y glasoed
Mer pm Clinig arenneg cyffredinol
Iau am Clinig ESRD
Iau am Clinig arenneg cyffredinol
Gwen am Clinig arenneg cyffredinol

 

Cynhelir clinigau perifferal hefyd yn yr ysbytai canlynol: 

Ysbyty Amlder
Brenhinol Gwent Bob 2 fis
Singleton Bob 3 mis
Aberdâr Bob 3 mis
Bronglais, Aberystwyth Bob 4 mis
Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr Bob 3 mis
Caerfyrddin/Llwynhelyg Bob 4 mis

 

Dilynwch ni