Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth ar gyfer FH

Mae FH yn gyflwr y gellir ei drin a'i reoli gan ddefnyddio meddyginiaeth sy'n lleihau colesterol, ynghyd â deiet iach a ffordd iach o fyw.

Deiet
Dylai pobl sydd ag FH fwyta deiet cyffredinol iach yn debyg i unigolion eraill sydd mewn perygl o glefyd y galon. Gall deietegydd sy'n brofiadol mewn rheoli colesterol roi arweiniad.

Ysmygu
Mae'n arbennig o bwysig i unigolion beidio ag ysmygu. Mewn pobl sydd ag FH, mae ysmygu bron yn treblu'r perygl o drawiad ar y galon.
 
Meddyginiaeth
Bydd angen i bron pawb sydd ag FH gael meddyginiaeth i leihau ei golesterol a'i berygl o glefyd y galon. Felly, bydd y rhan fwyaf o bobl sydd ag FH yn dechrau cymryd statin, sy'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth am feddyginiaeth ar gael yn ein Hadran Cwestiynau Cyffredin neu ar wefan Heart UK
 

Triniaethau Eraill

Gall bron pawb sydd ag FH gael ei drin yn effeithiol gyda statinau a chyffuriau eraill sy'n lleihau lipidau. Mae'n bosibl y bydd angen i nifer fach o bobl sydd ag FH gael lipoprotein apheresis, neu weithiau byddant yn cael cynnig meddyginiaeth newydd yn rhan o dreial clinigol.
Dilynwch ni