Neidio i'r prif gynnwy

Arwyddion Clinigol FH

Gwneir diagnosis yn seiliedig ar gyfuniad o lefelau colesterol uchel, arwyddion clinigol a hanes teuluol o glefyd y galon neu golesterol uchel. Gall prawf DNA fod yn ddefnyddiol i gadarnhau'r diagnosis.

Arwyddion FH

 

Knuckles effected by Tendon Xanthomata

 Tendon Xanthomata

Ynganiad: Zan-tho-mata. Dyddodion colesterol yw'r rhain sy'n ymddangos fel lympiau brasterog ar weyll y fferau (Achilles tendons), y cygnau (knuckles) neu'r pengliniau.

 

Eyes effected by Xanthelasmas

Xanthelasmas

Ynganiad: Zan-thel-as-mass. Dyddodion colesterol yw'r rhain sy'n ymddangos fel lympiau bach ger cornel fewnol y llygad. Maen nhw fel arfer yn felyn.

Eye effected by Corneal Arcus

Arcus Cornbilennol

Cylch gwyn o amgylch yr iris yw hwn. Mae'n gallu digwydd yn naturiol wrth i bobl fynd yn hŷn (dros 60 oed) ac nid yw bob amser yn golygu bod gan rywun FH. Os yw'n bresennol, dylech gael eich colesterol wedi'i fesur.

 

Fodd bynnag, ni fydd llawer o bobl ag FH yn dangos yr arwyddion corfforol hyn oherwydd efallai na fyddant yn dod i'r amlwg tan ganol oed, os o gwbl. Mae hyn yn aml yn golygu nad yw pobl yn gwybod bod ganddynt FH hyd nes eu bod nhw (neu aelod o'r teulu) yn cael trawiad ar y galon yn ifanc.

I gael gwybodaeth am brofion diagnostig, gweler ein taflen Profion Diagnostig ar gyfer Hypercholesterolaemia Teuluol.

Dilynwch ni