Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Nyrsys Arbenigol y Ganolfan Ffeibrosis Systig

Fel arfer, Canolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan fydd eich pwynt cyswllt cyntaf. Mae gennym chwe nyrs arbenigol glinigol (CNS), sydd naill ai wedi gweithio ar wardiau sy'n gofalu am gleifion â ffeibrosis systig neu fel nyrsys arbenigol am nifer o flynyddoedd, ac sydd â phrofiad blaenorol o amrywiaeth o gefndiroedd nyrsio. Rydym yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Efallai y gwelwch nyrs wahanol bob tro y dewch chi i'r clinig. Er ein bod ni'n rhyng-gyfnewidiol, mae gan bob un ohonom rolau nyrsio penodol eraill.

Alison Prosser, Nyrs Arbenigol Glinigol Arweiniol Ffeibrosis Systig

Gellir cysylltu ag Alison dros y ffôn ar 02920 716488, neu drwy'r switsfwrdd ar rif blîp 4868. Mae Alison wedi sefydlu'r gwasanaeth cymorth gofal cartref a chlinig 'port-a-cath' lloeren mewn ysbyty rhanbarthol. Mae hi hefyd yn cydlynu'r clinigau trawsblannu.

Jonathan Lee, Ymarferydd Nyrsio Clinigol

Gellir cysylltu ag ef dros y ffôn ar 02920 715465, neu drwy'r switsfwrdd ar rif blîp 4536. Mae Jonathan yn cydlynu'r clinig ffeibrosis systig - diabetes ar y cyd a hefyd yn trefnu apwyntiadau a chlinigau adolygu blynyddol.

Lynne Hopkins, Nyrs Arbenigol Glinigol a Nyrs Ymchwil

Mae Lynne yn gweithio fel nyrs arbenigol glinigol am ddau ddiwrnod ac fel nyrs ymchwil ffeibrosis systig am ddau ddiwrnod arall. Gellir cysylltu â Lynne dros y ffôn ar 02920 715944, neu drwy'r switsfwrdd ar rif blîp 4466.

Samantha Evans, Nyrs Arbenigol Glinigol

Mae Sam yn nyrs arbenigol glinigol amser llawn. Gellir cysylltu â Sam dros y ffôn ar 02920 715652 neu drwy'r switsfwrdd ar rif blîp 4467.
Mae Sam hefyd yn cydlynu'r clinigau afu/iau ffeibrosis systig.

 

Lana Murrell, Nyrs Arbenigol Ffeibrosis Systig

Mae Lana wedi ymuno â'r tîm yn ddiweddar ac yn gweithio'n rhan-amser fel nyrs arbenigol ffeibrosis systig, ond bu'n gweithio'n flaenorol yn Llundain ar ward lle'r oedd cleifion â ffeibrosis systig yn cael eu nyrsio. Gellir cysylltu â Lana dros y ffôn ar 02920 715944 neu drwy'r switsfwrdd ar rif blîp 4466

Annette Smith, Nyrs Arbenigol Ffeibrosis Systig

Mae Annette yn aelod arall o'r tîm a ymunodd â ni'n ddiweddar. Bu Annette yn gweithio gynt ar un o'n wardiau lloeren yn Llandochau, lle mae rhai cleifion ffeibrosis systig yn derbyn gofal. Gellir cysylltu ag Annette dros y ffôn ar 02920 715946

Beth rydym ni'n ei wneud?

Mae'r tîm nyrsio arbenigol yn darparu eiriolaeth a chymorth seicogymdeithasol pan fydd angen, yn enwedig ar adegau pwysig fel pontio, trafodaethau ynglŷn â materion atgenhedlu, yn ystod beichiogrwydd, ac atgyfeiriadau cyn trawsblaniad.

Mae'r nyrsys arbenigol hefyd yn darparu cymorth gofal cartref, yn enwedig ar gyfer therapi gwrthfiotigau mewnwythiennol (IV) gartref. Rydym yn cynnal rhaglen addysgu IV wedi'i seilio ar gymhwysedd unigol ar gyfer cleifion ac rydym yn cychwyn IV gartref, gan ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig, yn ogystal â phympiau a chyflenwadau tafladwy i'w defnyddio yn ystod triniaeth. Rydym hefyd yn cael gafael ar 'port-a-caths' a phasbortau, yn mewnosod llinellau hir, yn tynnu gwaed i fonitro lefelau cyffuriau ac yn adolygu cleifion drwy gydol eu triniaeth. Fel arfer, mae'n ofynnol i gleifion ddychwelyd i Landochau ar gyfer tynnu gwaed, ond ceisiwn ymweld â chleifion gartref i wneud hyn lle y bo'n bosibl. Byddwn hefyd yn cysylltu â chleifion os oes angen i ni addasu dos y feddyginiaeth ar ôl tynnu gwaed.

Rydym yn cydlynu a rheoli adolygiadau blynyddol, gan sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld gan bob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol. Rydym hefyd yn trefnu profion ac ymchwiliadau y mae angen eu cynnal tua'r adeg hon.

Mae'r nyrsys arbenigol hefyd yn rhoi cyngor, hyfforddiant, addysg a chymorth i gleifion, aelodau staff yr ysbyty a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â gofal ffeibrosis systig. Rydym wedi mynychu cyfarfodydd Ewropeaidd a chenedlaethol i gynnal ein gwybodaeth am ymchwil a datblygiadau diweddar ym maes ffeibrosis systig, ac rydym yn cysylltu'n aml â nyrsys arbenigol o ganolfannau eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Yn y ganolfan ffeibrosis systig hon, rydym wrthi ar hyn o bryd yn treialu clinigau gan ddefnyddio technoleg rithwir. Gwneir hyn trwy gysylltiad diogel dros y rhyngrwyd, lle y gellir adolygu cleifion o bell gartref neu yn y gweithle. Er nad yw hyn yn disodli'r angen i ddod i gael adolygiad mewn clinig, bydd yn gwella gofal ac efallai'n golygu na fydd rhaid i chi ddod i'r ganolfan mor aml. I rai, bydd hyn yn golygu llai o amser yn teithio i'r ganolfan a bydd yn cydweddu â ffyrdd o fyw prysur, gwaith ac addysg bellach. Gobeithiwn ymestyn y gwasanaeth hwn i fwy o gleifion yn y dyfodol. Bydd technoleg rithwir yn cael ei defnyddio i gyfathrebu ag arbenigwyr mewn ysbytai eraill hefyd.

Mae diogelwch a lles cleifion o'r pwys mwyaf i ni ac rydym yn dilyn polisïau llym iawn ar reoli heintiau. Mae'r nyrsys arbenigol yn helpu i gydlynu'r amryw glinigau o ran gwahanol heintiau, ac argaeledd ymgynghorwyr. Rydym bob amser ar gael yn ystod oriau gwaith i ymdrin ag unrhyw bryderon a allai godi.

Rydym hefyd yn gweithredu fel cyswllt rhwng y claf a'i deulu a gwasanaethau gofal sylfaenol/cymunedol a'r ysbyty. Rydym yn cysylltu ag aelodau eraill o'r tîm ac yn atgyfeirio iddynt ar eich rhan.

Mae ein holl ffonau wedi'u cysylltu â system neges llais, felly os na allwch siarad ag un ohonom, gadewch neges. Rydym yn gwrando ar negeseuon yn rheolaidd drwy gydol y dydd, a byddwn yn dychwelyd eich galwad.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol nad oes angen ymateb iddo ar unwaith, gallwch gysylltu â'r nyrsys arbenigol trwy neges e-bost. Ceisiwn ymateb yn brydlon ac o fewn 48 awr. Ni fydd ymholiadau a anfonir yn ystod y penwythnos yn cael eu gweld tan y dydd Llun canlynol o leiaf. Fodd bynnag, NID llinell gymorth frys ydyw ac ni fydd ar gael y tu allan i oriau arferol, ar y penwythnos nac ar wyliau banc. Mae'n bwysig eich bod yn sylweddoli nad yw'r nyrsys arbenigol ffeibrosis systig yn gallu rhoi cyngor brys trwy neges e-bost - os ydych yn sâl neu os oes arnoch angen triniaeth frys y tu allan i oriau arferol, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'r ward ffeibrosis systig.

 

Dilynwch ni