Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr Cymdeithasol y Ganolfan Ffibrosis Systig

Rôl gweithwyr cymdeithasol FfS

Gall rôl y gweithwyr cymdeithasol fod yn werthfawr iawn adeg argyfwng am eu bod yn gallu ymweld â phobl gartref yn ogystal ag yn yr ysbyty. Gall hyn helpu i gael darlun cyffredinol o fywyd y claf, gweld pa rwydweithiau cymorth sydd ganddo gartref ac edrych ar unrhyw feysydd eraill a allai fod yn achosi anawsterau.

Gall gweithwyr cymdeithasol chwarae rhan mewn cynorthwyo gydag anawsterau perthynas ac atal arwahanrwydd. Rydym mewn cysylltiad ag amrywiol elusennau sy'n gallu cynorthwyo gyda gwyliau, dyfeisiau'r cartref ac ati. Gellir cysylltu hefyd ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol lleol y claf sy'n gallu cynnig eu hasesiad eu hunain o ran gwasanaethau lleol.

Mae gan weithwyr cymdeithasol wybodaeth waith sylfaenol am fudd-daliadau a lwfansau ac maent yn llawn gydnabod bod anhwylder cronig yn gallu creu costau a gwneud pethau'n anodd i'r rheini sydd ar incymau isel. Am fod y system les yn gymhleth iawn ac yn newid byth a hefyd, bydd gweithwyr cymdeithasol yn aml yn ceisio cael cyngor pellach ar eich rhan neu'n eich atgyfeirio i gynghorwr budd-daliadau arbenigol yn eich ardal leol. 

Mae trafodaeth gyda gweithwyr cymdeithasol yn gyfrinachol ac ni fyddai'n cael ei rhannu gydag eraill heb ganiatâd. Fodd bynnag, mae adegau pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn rhwym yn statudol i rannu gwybodaeth am y rheini y credir eu bod mewn perygl o niwed sylweddol. 

Rhoi cyngor ac eiriolaeth o ran:

  • Cymorth i ofalwyr
  • Materion gofal plant
  • Elusennau – grantiau, gwyliau ac ati
  • Parcio i'r anabl
  • Addysg Bellach
  • Cyflogaeth
  • Cyngor Ariannol a Budd-daliadau
  • Addasiadau i'r cartref, asesiadau therapi galwedigaethol 
  • Cymorth cartref
  • Materion tai, effeithlonrwydd ynni, lleihau treth dŵr 
  • Hamdden, gwyliau, yswiriant teithio ac ati
  • Cynlluniau Motability 

Gall gweithwyr cymdeithasol hefyd ddarparu

  • Cymorth emosiynol a chwnsela sylfaenol
  • Cyswllt ag adrannau awdurdod lleol / asiantaethau gwirfoddol
  • Cyngor a gwybodaeth o ran amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed

Gall gweithwyr cymdeithasol weld unigolion a/ neu bobl eraill arwyddocaol ar y ward, yn y clinig, yn y cartref drwy drefniant blaenorol neu drwy ddefnyddio ein clinig gwaith cymdeithasol rhith-dechnoleg, sy'n fy ngalluogi i gysylltu â chi drwy eich cyfrifiadur, yn debyg i ddefnyddio 'Skype'. Gwasanaeth newydd y gallwn ei gynnig yw hwn, a gall eich arbed rhag gyrru pellterau mawr i fy ngweld i yn y Ganolfan FfS os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda ffurflenni neu gyngor.

Dilynwch ni