Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Deieteg y Ganolfan Ffeibrosis Systig

Mae eich tîm deieteg yn cynnwys 2 Ddeietegydd Ffeibrosis Systig Arbenigol amser llawn, sef Meenu a David, sy'n cael eu cefnogi gan ein cynorthwy-ydd deieteg dyfeisgar, Beata.

Beth yw Deietegydd?

Mae maeth yn allweddol i iechyd pobl sydd â ffeibrosis systig. Deietegwyr yw'r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwysedig sy'n asesu, gwneud diagnosis a thrin problemau sy'n ymwneud â deiet a maeth.

Sut gallwn eich helpu?

Rydym yn rhoi cyngor a gwybodaeth am faeth i'r holl gleifion mewnol ac allanol sydd â ffeibrosis systig.

Rydym yn ceisio helpu cleifion i hunanreoli pob agwedd ar eu hanghenion maethol, gan roi cyngor a chymorth ynglŷn â maeth (gan gynnwys cyngor ysgrifenedig y gallwch fynd ag ef gyda chi) ar y pynciau canlynol.

  • Rydym yn asesu ac yn gallu darparu cynlluniau triniaeth faethol i helpu cleifion i gyrraedd pwysau corff iach fel bod yr ysgyfaint yn gallu gweithio cystal â phosibl, a chynnal hynny.
  • Gallwn asesu cyfansoddiad y corff (e.e. cyhyrau a lefelau braster y corff) gan ddefnyddio peiriannau arbenigol, a gallwn ddarparu cynlluniau gweithredu maethol i'ch helpu i gyrraedd lefelau iach.
  • Asesu therapi amnewid ensymau pancreatig, gan roi cyngor ar y dos cywir o ensymau o ran cymeriant bwyd.
  • Monitro a chynghori ar therapi fitaminau sy'n toddi mewn braster ac atchwanegiadau halen.
  • Cyngor a chymorth ynglŷn â rheoli ffeibrosis systig sy'n gysylltiedig â diabetes.
  • Cyngor ar faeth ar gyfer esgyrn iach.
  • Cyngor ar faeth ar gyfer cleifion benywaidd sydd eisiau beichiogi a chynnig cyngor cynenedigol i helpu i gyflawni'r maeth gorau ar yr adeg hon.

Gwybodaeth Gyswllt Ddefnyddiol

Dilynwch ni