Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Seicoleg Glinigol y Ganolfan FfS

Our two part time clinical psychologists are Anna McCulloch and Heledd Lewis.

Beth yw seicolegydd clinigol?

Rydym wedi cael ein hyfforddi i ddeall sut mae pobl yn meddwl, teimlo ac ymddwyn. Byddwn yn ceisio helpu pobl i ymdopi â rhai o'r anawsterau sy'n gallu codi o gael ffibrosis systig neu o'i drin. 

Pwy fydd yn cael gwybodaeth amdanaf fi?

Credwn ei bod yn bwysig cadw'r hyn a ddywedwch wrthym ni'n breifat (yn gyfrinachol). Efallai bydd rhywfaint o wybodaeth y byddai'n ddefnyddiol ei rhannu gyda'r tîm meddygol er mwyn iddynt allu eich helpu gymaint ag sy'n bosibl. Byddwn yn cynllunio gyda chi ba wybodaeth y byddwn yn ei rhannu a chyda phwy.

Yr unig eithriad i hyn yw os byddwn yn credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl, a bod angen inni ddweud wrth rywun amdano. 

Gyda pha fathau o broblemau y gallwn helpu?

Byddwn yn gweld pobl sy'n cael pob math o anawsterau. Yn y rhestr isod, mae rhai o'r problemau y gallwn gynnig help ichi yn eu cylch: 

  • Ymdopi â thriniaethau a allai fod yn peri gofid neu straen ichi. Er enghraifft, ymdopi â nodwyddau a phrofion gwaed, cymryd tabledi, cael llawdriniaeth a phrofion meddygol eraill. 
  • Eich helpu i wneud penderfyniadau am eich triniaeth.
  • Rheoli symptomau fel poen, blinder a symptomau corfforol eraill a newidiadau corfforol.
  • Ymdrin ag effaith yr anhwylder ar eich bywyd: gyda'r coleg neu'r gwaith, ffrindiau a pherthnasoedd. 
  • Ymdrin â'r teimladau a ddaw o gael FfS, er enghraifft, teimlo'n wahanol i bobl eraill neu deimlo'n flin. 
  • Helpu gyda phroblemau bwyta, cysgu, neu deithio o gwmpas.
  • Teimladau o ddigalondid, pryder neu ofid.
  • Ystyried dechrau teulu.

Nid yw gweld seicolegydd yn golygu eich bod yn wan neu fod rhywbeth o'i le arnoch chi'n seicolegol. Rydych yn gorfod ymdopi ag amgylchiadau eithriadol. Gall fod yn galed byw gyda FfS ac mae siarad â seicolegydd yn gallu eich helpu i ganfod ffyrdd newydd o ymdrin â'r anawsterau. 

Gallwch gysylltu â ni drwy ofyn i un o'r tîm gysylltu â chi.

Fel arall, gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol dros y ffôn ar 029 2071 6245. Rydym ar gael ar gyfer apwyntiadau cleifion mewnol a chleifion allanol. Gallwn gwrdd am apwyntiad untro neu am sesiynau rheolaidd, gan ddibynnu ar eich dymuniadau a'ch anghenion. 

Dilynwch ni