Neidio i'r prif gynnwy

Trosglwyddo o Wasanaethau Pediatreg i Wasanaethau CHD Oedolion

Mae trosglwyddo yn broses …

“A purposeful, planned process that addresses the medical, psychosocial and educational/vocational needs of adolescents and young adults with chronic physical and medical conditions as they move from child-orientated to adult-orientated health care systems.”  (Blum et al 1993)

Bydd y mwyafrif o bobl ifanc yn symud i wasanaeth oedolion pan fyddant yn cyrraedd 16 i 18 oed. Rydyn ni'n gwybod os ydyn ni'n cynllunio'n gynnar yna mae pobl ifanc yn teimlo'n llawer gwell wedi'u paratoi ar gyfer symud.

Mae Karina Howell (Nyrs Trosglwyddo Cardioleg Bediatreg) wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae'n arwain gwasanaethau a gofal i gleifion o oedran troslwyddo.

Mae hi'n gweithio'n agos ac yn gydweithredol gyda thîm ACHD CNS a gwasanaethau cardioleg ACHD oedolion ledled De Cymru. Bydd pob claf sy'n trosglwyddo o wasanaethau pediatreg i wasanaethau oedolion yn derbyn cynllun gofal trosglwyddo cynhwysfawr.

Bydd claf sy'n trosglwyddo i wasanaethau oedolion yn cael:

  • Nyrs drosglwyddo bwrpasol (Karina Howell)
  • Cymorth ACHD CNS
  • Cefnogaeth seicolegol
  • Cynlluniau gofal trosglwyddo
  • Llenyddiaeth drosglwyddo benodol
  • Gwelir atgyfeiriadau newydd yn y clinig "trosglwyddo" ACHD