Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad Recriwtio'r Hwb Llawfeddygol

05 Tachwedd 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal digwyddiad recriwtio ar 13 Tachwedd 2024, gan arddangos yr amrywiaeth o rolau ar draws y Bwrdd Iechyd. Cynhelir y digwyddiad yn Gorllewin 6, Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Bydd mynychwyr yn gallu ymweld â stondinau a siarad â rheolwyr am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael.

Y swyddi gwag yr ydym am recriwtio iddynt yw:

  • Nyrsys gymwysedig B5
  • Gweithiwyr Cymorth Gofal Iechyd B2
  • Derbynnydd ward B2

Bydd ymgeiswyr yn cael cyfle i gael eu cyfweld ar y diwrnod. Os yw ymgeiswyr am gael eu cyfweld, dewch â CV cyfredol, prawf adnabod, a phrawf o gymwysterau.

Mae cyfle hefyd i eraill nad ydynt o bosib yn gymwys eto i fynychu'r digwyddiad. Bydd aelodau o’n tîm yn bresennol i roi cyngor ar dechnegau cyfweliad a cheisiadau am swyddi, yn ogystal â rhannu eu profiadau o weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Cynhelir y digwyddiad yn Gorllewin 6, Ysbyty Athrofaol Llandochau, ar 13 Tachwedd 2024, 3pm – 7pm. Dewch draw i ddysgu beth sydd gennym i’w gynnig. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Dilynwch ni