Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferydd Nyrsio Ysbyty Athrofaol Cymru ar ei yrfa deng mlynedd yn y Fyddin wrth Gefn

I ddathlu Diwrnod y Fyddin wrth Gefn, mae'r Ymarferydd Nyrsio Brys Mal Lewis wedi siarad am ei yrfa yn y Fyddin wrth Gefn, sydd wedi caniatáu iddo deithio'r byd a defnyddio ei sgiliau arbenigol mewn amgylcheddau heriol ac unigryw.

Mae milwyr wrth gefn yn chwarae rhan ganolog ochr yn ochr ag unedau rheolaidd i fodloni gofynion amddiffyn a darparu cymorth mewn meysydd arbenigol fel y meysydd meddygol a chyfathrebu.

Maent yn allweddol i amddiffyn diogelwch y genedl gartref a thramor, ac fel cefnogwr y Lluoedd Arfog, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch o weithio gydag 11 o filwyr wrth gefn.

Mae’r Uwchgapten Mal Lewis, Ymarferydd Nyrsio Brys yn yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi bod yn Filwr wrth Gefn ers 12 mlynedd.

Fel Swyddog Nyrsio, Mal sy'n gyfrifol am Adran Achosion Brys Ysbyty Maes 203 Cymru, ac yn ystod ei yrfa mae wedi cael ei leoli mewn ysbytai maes yn Irac, Affganistan a Sierra Leone.

Dywedodd: "I fi, mae’r Fyddin wrth Gefn yn darparu amgylchedd gwych i ddatblygu sgiliau newydd a herio fy hun a gwasanaethu fy ngwlad ar yr un pryd.

"Mae'r hyfforddiant antur yn gyfle gwych i brofi pethau na fyddwn yn eu profi o bosib mewn bywyd bob dydd. Hyd yn hyn, rwyf wedi cael y cyfle i fynd i feicio mynydd, hwylio, sgïo a cherdded yn y Grand Canyon.

"Mae’r Fyddin wrth Gefn hefyd yn cynnig cyfleoedd hollol wahanol i'm swydd arferol. Yn ogystal â'r gallu i ddefnyddio a datblygu fy sgiliau arbenigol mewn amgylcheddau heriol ac unigryw, mae'n rhoi cyfle i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi dramor a'r gwahanol heriau sy'n codi.

"Rwyf wedi bod yn ffodus i allu teithio'r byd yn cefnogi aelodau rheng flaen y lluoedd arfog, gan roi'r sicrwydd iddynt y byddant fel tîm yn cael y safonau gofal uchaf posibl."

Drwy gydol ei yrfa yn y Fyddin wrth Gefn, mae Mal wedi datblygu set sgiliau amhrisiadwy sydd nid yn unig o fudd iddo fel Milwr wrth Gefn ond hefyd fel Ymarferydd Nyrsio Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

"Rwyf wedi dysgu a datblygu llawer o sgiliau clinigol fel milwr wrth gefn. Maent yn cynnwys cyfathrebu, arweinyddiaeth, gweithio mewn tîm a datrys problemau ymhlith pethau eraill," meddai.

"Mae'n rhaid i fi gymryd yr awenau mewn sefyllfaoedd anodd a llawn straen gan aros yn ddigynnwrf bob amser. Mae gallu cyfathrebu'n effeithiol â'm cadwyn gorchymyn wedi bod o fudd i fi yn y fyddin wrth gefn ac yn fy rôl sifil."

I Mal, un o'r pethau mwyaf gwerth chweil am fod yn Filwr wrth Gefn yw gallu rhoi yn ôl i gymunedau.

Dywedodd: "Yn ogystal â'r cyfleoedd gwych rwyf wedi'u cael, mae teimlad gwych o foddhad a chyflawniad bod y tîm cyfan yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar ddarparu gofal o’r radd flaenaf mewn amgylcheddau anodd."

Dilynwch ni