Os felly, gallech chi fod yn gymwys i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil i helpu i wella ansawdd eich bywyd.
Mae astudiaeth TIPTOE, sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd a’i chefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ymchwilio i ba mor effeithiol y gall rhaglen gymorth bersonol fod i’r unigolion hynny sy’n dioddef o boen yn y pen-glin a/neu gymal y glun, ochr yn ochr â chyflyrau hirdymor eraill.
Yn rhan o’r astudiaeth hon, bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn chwe sesiwn un-i-un gydag ymarferydd gofal iechyd cymwys dros gyfnod o chwe mis, naill ai wyneb-yn-wyneb neu ar ffurf galwad fideo ar-lein. Y cyngor yw eich bod yn cymryd rhan gyda pherson a ddewiswyd gennych chi sy’n gallu eich helpu i lywio gwefan yr astudiaeth a dod i’r sesiynau cymorth.
I gael rhagor o wybodaeth neu gymryd rhan, gallwch chi fynd i www.TIPTOE.org.uk neu anfon e-bost at TIPTOE@caerdydd.ac.uk.