Neidio i'r prif gynnwy

Y ferch yn ei harddegau â chanser y galon hynod o brin a fydd yn gadael gwaddol aruthrol

Disgrifiwyd Rosie Jarman gan ei rhieni fel merch “ddisglair, hardd a deallus” a oedd yn llwyddo ym mhopeth a roddai gynnig arno. Yn ogystal â bod â thalent mewn gwaith celf, roedd ganddi angerdd am geir cyflym, actio a'r awyr agored.

Ond yn ddim ond 14 oed cafodd ei bywyd ei droi wyneb i waered gan y diagnosis mwyaf dinistriol. Darganfuwyd bod y ferch ifanc a fu gynt yn actif wedi bod yn byw gyda thiwmor ar y galon hynod o brin y mae meddygon ond wedi dod o hyd iddo mewn 35 o bobl eraill, gan gynnwys dim ond pump o blant, ledled y byd.

Ac eto, yn lle teimlo’n ddigalon ynghylch y newyddion ofnadwy, penderfynodd Rosie ei bod hi’n mynd i “berchen” ar ei salwch trwy ddogfennu ei thaith canser yn ddiwyd. Ei nod oedd cefnogi teuluoedd eraill mewn sefyllfaoedd tebyg a helpu gweithwyr meddygol proffesiynol i ddysgu mwy am ei ffurf hynod anarferol o'r afiechyd.

“Trwy gydol ei holl driniaeth, dim ots pa mor boenus ydoedd, neu pa mor wael yr oedd yn gwneud iddi deimlo, byddai bob amser yn dweud ‘diolch’ i’r bobl oedd yn gofalu amdani – dyna’r math o ferch oedd hi,” meddai ei mam Kathryn Jarman. “Ond roedd hi hefyd yn llawn ffocws, yn benderfynol ac yn gryf. Bydd ein Rosie fach ni yn gadael gwaddol enfawr ac rydym mor falch ohoni.”

Ym mis Gorffennaf 2021, ar ôl cwblhau pedair taith Dug Caeredin, dechreuodd Rosie gwyno ei bod yn teimlo'n flinedig iawn - symptom yr oedd ei rhieni'n tybio i ddechrau oedd oherwydd ei hwythnosau o gerdded a dringo mynyddoedd.

 

“Roedden ni'n meddwl ei bod hi ond wedi blino’n lân, ond yna fe ddechreuodd hi chwydu bob cwpl o ddiwrnodau trwy fis Awst,” cofiodd Kathryn. “Roedd hi wedi cael sawl meigryn yn y gorffennol a chafodd ddiagnosis o Covid-19 yn gynharach yn y flwyddyn hefyd, felly roedd pryderon y gallai fod ganddi Covid hir. Roedd hi wedi cael sgan MRI ar yr ymennydd y mis Mai blaenorol a ddaeth yn ôl yn glir.”

Yn y dyddiau a ddilynodd, dechreuodd Rosie ddioddef cramp ofnadwy yn un o'i choesau a dechreuodd chwydu’r tabledi gwrth-salwch a ragnodwyd iddi gan ei meddyg teulu. “Unwaith eto, roedden ni’n meddwl efallai nad oedd halen ei chorff yn gweithio’n iawn – ond ni ddaeth pethau’n well,” meddai Kathryn.

Pan oedd eu meddyg teulu yn amau bod gan Rosie niwmonia annodweddiadol, dywedwyd wrthi am ymweld ag Ysbyty Athrofaol y Grange yng Nghwmbrân lle darganfu meddygon fod ei chalon yn curo'n gynt nag arfer. Fe wnaethon nhw'r penderfyniad i gynnal sgan ar yr ymennydd a ddaeth o hyd i dri emboli bach nad oedd wedi bod yno rai misoedd ynghynt. Rhoddwyd hi ar drip a chynhaliwyd mwy o brofion i benderfynu o ble y daethant.

“Cyrhaeddodd y pwynt [yn yr ysbyty] lle na allai bwyso yn ôl. Yr hyn nad oeddem yn sylweddoli oedd bod ei hysgyfaint yn llenwi â hylif, a phob tro roedd hi’n ceisio mynd i gysgu neu ymlacio, byddai ei lefelau ocsigen yn gostwng, byddai'r peiriannau i gyd yn dechrau blipio, a byddai'n rhaid i'r staff ei deffro. Am bron i wythnos ni allai fynd i gysgu, ac mae'n rhaid bod hynny’n artaith iddi.”

Ar ddiwrnod chwech o'i harhosiad yn y Grange, cynhaliwyd uwchsain ar galon Rosie a ddatgelodd diwmor 15cm yr oeddent yn tybio, ar y pryd, ei fod yn anfalaen. Roedd y tiwmor mor fawr nes bod rhannau ohono wedi torri i ffwrdd a theithio i’w choes a dyna oedd wedi achosi’r cramp difrifol.

“Fe allai hi fod wedi bod yn cerdded o gwmpas B&M a gallai fod wedi disgyn yn farw,” esboniodd Kathryn.

O fewn oriau i'r darganfyddiad ym mis Hydref 2021, aeth tîm cludo cleifion WATCh (Trafnidiaeth Aciwt i Blant Cymru a Gorllewin Lloegr) â Rosie i Ysbyty Plant Evelina London ar gyfer llawdriniaeth agored brys ar y galon.

Dywedodd tad Rosie, Gareth Jarman: “Roedd yn sioc enfawr, ond dydych chi ddim yn meddwl am y senario waethaf. Y cyfan y gallem ei wneud oedd canolbwyntio ar y cam nesaf. Pan ddywedodd y meddyg ymgynghorol wrthym fod 2% o siawns y byddai hi’n marw [o’r llawdriniaeth], dyna pryd y dechreuodd y sefyllfa ein taro ni mewn gwirionedd.”

Er bod y driniaeth i fod i gymryd pum awr, cymerodd dros ddwy awr yn ychwanegol at hyn, gan fod y tiwmor mor drwm fel ei fod wedi ymestyn y falf feitrol rhwng siambrau ei chalon. Serch hynny, ystyriwyd bod y llawdriniaeth yn llwyddiant.

“Pan wnaeth hi ddeffro o’r llawdriniaeth, roedd y feddyginiaeth yr oedd arni mor gryf fel na allai agor ei hamrannau,” meddai Kathryn. “Fe wnaeth hi gyfathrebu â ni gan ddefnyddio ei bys yn unig. Roeddem mor falch ohoni.

“O fewn 24 awr roedden nhw’n tynnu ei thiwbiau anadlu allan ac roedd hi’n gallu eistedd i fyny yn y gwely. Dim ond ychydig bach o hylif oedden ni'n

cael ei roi iddi, ond darganfu Rosie y gallai gael lolis iâ felly bwytaodd lwyth ohonyn nhw. Roedd ei gwydnwch yn rhyfeddol.”

Yn dilyn biopsi o'r tiwmor, a anfonwyd i Ysbyty Brenhinol Marsden yn Llundain, gwnaeth y meddygon roi newyddion gwirioneddol dorcalonnus i rieni Rosie, a dweud wrthynt bod eu merch yn ei harddegau yn byw gyda chanser y galon.

“Mae'n anodd deall y tebygolrwydd y byddai ein merch yn cael canser mor brin. Byddai gennych lawer gwell siawns o ennill y loteri,” meddai Gareth. “Hwn oedd y peth gwaethaf y gallech chi ei ddisgwyl erioed.”

Ym mis Tachwedd 2021, yn fuan ar ôl iddi gael ei rhyddhau o Ysbyty Plant Evelina London, anfonwyd Rosie i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd lle cafodd chwe rownd o gemotherapi gradd oedolyn. Daeth y safle, ar diroedd Ysbyty Athrofaol Cymru, yn ail gartref i'r ferch yn ei harddegau a'i rhieni, a gwnaethant ffurfio cyfeillgarwch hir-barhaol gyda'r meddygon a'r nyrsys.

“Gan fod Covid-19 ar waith ar y pryd, dim ond un ohonom ni allai fod gyda hi ar un adeg,” ychwanegodd Kathryn. “Roedd yn rhaid i ni hefyd ofalu am ein merch Molly sydd ond 18 mis yn iau na Rosie.

“Roedd corff Rosie wedi brwydro cymaint erbyn hyn, ond roedd hi mor benderfynol. Roedd colli ei gwallt yn anodd iawn, ond rhoddodd un o'r nyrsys [yn yr ysbyty plant] sgarff pen hyfryd iddi. Fe wnaethon ni gysylltu â’r Little Princess Trust ar unwaith [am wig] a gwnaeth Molly focs bach i’w chwaer i gadw ei wig ynddo.”

Tua diwedd ei thriniaeth cemotherapi, gwnaed y penderfyniad i drosglwyddo Rosie i Fanceinion am chwe wythnos o therapi pelydr proton, math o driniaeth ymbelydredd wedi'i thargedu i ddinistrio unrhyw gelloedd tiwmor sy'n weddill. Cyn iddi fynd, gwnaeth sgan MRI ganfod dim tystiolaeth o emboli yn ei hymennydd, ond roedd marwgig lle buont.

“Fe wnaethon ni ffrindiau hyfryd ym Manceinion. Roedd yna grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau a wnaeth roi cymaint o gefnogaeth i Rosie,” ychwanegodd Kathryn. “Ond fe aeth hi’n fwyfwy gwael a dechreuodd chwydu eto.”

 

Er bod triniaeth pelydr proton Rosie i fod i bara 33 rownd, daethpwyd â’r driniaeth i ben ar rownd 30 oherwydd ei salwch a gwnaeth y teulu eu ffordd adref i Fannau Brycheiniog, Powys, i orffwys ac adsefydlu. Fodd bynnag, dim ond cwpl o ddiwrnodau yn ddiweddarach dechreuodd Rosie gwyno am gur pen ofnadwy a chafodd ei pharlysu i lawr ochr chwith ei chorff.

Meddai Kathryn: “Roedd ganddi arwyddion o strôc. Cariodd Gareth hi lawr y grisiau ac roedd criw ambiwlans y tu allan i fynd â hi i’r Grange unwaith eto.”

Cynhaliwyd sgan MRI pellach a wnaeth ddatgelu’r newyddion ofnadwy fod gan Rosie dri thiwmor yn ei hymennydd a oedd wedi tyfu yn ystod ei chwe wythnos o therapi pelydr proton ym Manceinion. Yna cafodd ei throsglwyddo yn ôl i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru lle cadarnhaodd clinigwyr y byddai angen i ofal y ferch yn ei harddegau fod yn lliniarol o hyn ymlaen.

Rhoddwyd gwely ysbyty yn ei hystafell fyw gartref, ac yn ystod tair wythnos olaf ei bywyd – diolch i’r elusen Dreams & Wishes – llwyddodd Rosie a’i theulu i rannu atgofion anhygoel.

Dywedodd Kathryn: “Fe wnaethon ni esbonio i’r elusen fod Rosie wrth ei bodd â cheir cyflym, a’r diwrnod wedyn cyrhaeddodd Lamborghini y tu allan i’r tŷ ac fe wnaethon nhw roi Rosie yn y car. Yn dilyn hynny aeth i fyny mewn awyren a gwnaeth y peilot adael iddi gymryd y llyw! Roedd ei munudau olaf yn arbennig iawn.”

Ar ôl gweld ei ffrindiau agosaf, a threulio amser yn pobi gyda'i chwaer Molly, bu farw Rosie gartref ar 27 Mehefin, 2022.

Trwy gydol ei salwch, pryd bynnag y teimlai'n ddigon da byddai Rosie yn cadw dyddiadur manwl o'i thriniaeth. Fe wnaeth hi hefyd ysgrifennu cyngor ac awgrymiadau i rieni a phlant ar yr hyn i'w ddisgwyl yn yr ysbyty a pha bethau i fynd â nhw ymlaen llaw.

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o waith roedd Rosie wedi'i wneud nes i mi edrych arno ar ôl iddi farw,” meddai Kathryn. “Fe wnes i ei helpu gyda darnau bach ohono, ond ei gwaith ei hun yw hwn i raddau helaeth.

“Rwy’n credu bod ei phersonoliaeth wydn, hardd a doniol yn amlwg yn y llyfr. Mae hi hefyd yn darparu gwybodaeth am y gwahanol ganserau plant a’r triniaethau, yn ogystal â rhoi mwy o fanylion am ei chanser hi. Mae wedi cael ei adolygu gan ei meddyg ymgynghorol felly mae'r cyfan yn dechnegol gywir.

“Mae hi hefyd wedi darparu rhestrau i gleifion a theuluoedd sy’n mynd i’r ysbyty am driniaeth. Ar ddiwedd y llyfr mae tudalennau diolch i’r llu o elusennau a sefydliadau anhygoel sydd wedi ei helpu hi - a ninnau - ar hyd y ffordd."

Bydd yr holl arian a godir o’r llyfr, o’r enw Mountain in My Heart, yn mynd tuag at yr amrywiol elusennau a gynorthwyodd Rosie, gan gynnwys Dreams & Wishes a Latch. Roedd y teulu hefyd eisiau talu teyrnged i'r holl glinigwyr y daethant i gysylltiad â nhw yn ystod salwch Rosie, gan gynnwys y rhai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ychwanegodd Gareth: “Rydyn ni’n gwybod bod y gweithwyr proffesiynol wedi gwneud y gorau y gallen nhw o ystyried natur hynod brin ei chanser a’r wybodaeth oedd ganddyn nhw.”

Gallwch brynu'r llyfr trwy fynd yma.

Dilynwch ni