Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau allweddol i Raglen Brechu Torfol COVID-19. Mae'r datganiad diweddaraf i'w weld yma.
Mae’r boblogaeth wedi meithrin lefel uchel o imiwnedd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ac, wrth inni symud o ymateb i argyfwng y pandemig tuag at ddull ‘busnes fel arfer’, mwy cynaliadwy, byddwn yn gweithredu fel a ganlyn:
Bydd y cynnig o ddau ddos cychwynnol o’r cwrs sylfaenol cyffredinol o frechlyn (a gynigiwyd o fis Rhagfyr 2020 i'r holl boblogaeth dros 5 oed) yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023
Bydd y cynnig o ddos atgyfnerthu cyffredinol (trydydd dos) (a gynigiwyd o hydref 2021 i’r holl boblogaeth dros 5 oed) yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023
Mae hyn yn golygu bod gan y rhai rhwng 5 a 49 oed sydd heb gael eu cwrs sylfaenol neu eu dos atgyfnerthu yn 2021 tan y dyddiadau hynny i fanteisio ar y cynigion hyn.
Cael eich brechu yw’r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19.
Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf wedi cael fy mrechlyn cyntaf, ail neu drydydd (dos atgyfnerthu) eto?
Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau cwrs sylfaenol o frechiadau COVID-19 (h.y. nid ydych wedi cael unrhyw frechiadau COVID-19 neu os ydych wedi cael eich brechiad cyntaf ond nid eich ail) bydd gennych tan 30 Mehefin 2023 i gael eich brechu’n llawn.
Mae'n bwysig nodi, os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn, y bydd angen i chi sicrhau bod 56 diwrnod (8 wythnos) rhwng eich dos cyntaf a'ch ail ddos. Os ydych o dan 18, bydd hyn yn 84 diwrnod (12 wythnos)
Bydd dos atgyfnerthu ar gael i'r rhai sy'n gymwys ac sydd wedi derbyn eu cwrs sylfaenol (dos 1 a 2) tan 31 Mawrth 2023.
Ble alla i gael fy mrechlyn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg?
I dderbyn eich dos cyntaf, ail ddos neu ddos atgyfnerthu gallwch alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol Tŷ Coetir.
Mae Canolfan Brechu Torfol Tŷ Coetir ar agor rhwng 10am a 7pm saith diwrnod yr wythnos.
Rhaid i blant 5 i 15 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
A yw hyn yn golygu diwedd brechiadau COVID-19?
Nid yw hyn yn arwydd bod y rhaglen frechu COVID-19 yn cael ei chau. Rydym yn disgwyl i frechiadau COVID-19 barhau i fod yn nodwedd o'n rhaglen frechu yng Nghymru.
Bydd unigolion sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu rhoi mewn grŵp risg glinigol, yn dal i allu cael eu brechu yn ystod ffenestr nesaf yr ymgyrch, neu’n gynharach na hynny ar gyngor clinigydd.
At hynny, bydd unigolion sydd mewn mwy o berygl (fel y pennwyd gan y JCVI) yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu arall yn hydref 2023. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar hyn o bryd i gynnal rhaglen atgyfnerthu bosibl yng ngwanwyn 2023, yn amodol ar gyngor a ryddheir yn fuan gan y JCVI.