Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, gyda’r nod o annog yr awdurdodau, partneriaid allweddol a chymunedau i gydweithio i fynd i’r afael â phroblemau troseddau casineb lleol.
Nid oes lle i gasineb, a nod yr wythnos yw dod â phobl ynghyd i ddweud na i droseddau casineb a gwneud cymunedau’n fwy diogel i bawb.
Heddiw safodd sefydliadau partner, gan gynnwys Heddlu De Cymru, gyda’i gilydd mewn lleoliadau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddangos ein bod ni i gyd yn sefyll gyda’n gilydd yn erbyn troseddau casineb.
Mae gwahanol fathau o droseddau casineb ac maent yn gallu treiddio i galon cymunedau. Trwy adrodd am bryderon, gallwch helpu unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ragfarn rywun arall, anwybodaeth neu drais a chadw cymunedau’n ddiogel.
Dysgwch sut i adnabod trosedd casineb, rhoi gwybod amdano, neu gael cymorth, cefnogaeth a chyngor – ar-lein ac yn eich cymuned: Troseddau casineb | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Darganfyddwch fwy am Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.