Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol

12 Mai 2025

Mae cymuned yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd meddwl a'n lles, a dyma thema eleni ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ein hannog i feddwl am ein lles meddwl, cynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a lleihau'r stigma sy'n ymwneud â salwch meddwl.

Rydym yn tynnu sylw at rai o'r mentrau iechyd meddwl cymunedol pwysig sydd ar gael i'r rhai sy'n cael trafferth:

Yr Hangout

Mae'r Hangout yn ganolfan lles i bobl ifanc 11–17 oed, wedi'i leoli yng Nghaerdydd a'r Barri.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr elusen iechyd meddwl a chyfiawnder cymdeithasol Platfform ac mae'n cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Gall pobl ifanc gael mynediad at gymorth iechyd meddwl trwy sesiynau 1-1, cymryd rhan mewn grwpiau lles neu greadigol i hybu lles neu ddefnyddio'r gofod i gymdeithasu a gwneud ffrindiau.

Mae Ruby, sy'n 12 oed, yn ymweld â'r Hangout yng Nghaerdydd bob wythnos, meddai: "Rwy'n dod i'r Hangout oherwydd fy mod wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl dros y pum mlynedd diwethaf ac mae dod i'r Hangout bob wythnos wedi dechrau gwneud i mi deimlo'n well.

"Rydw i wedi cael rhywun sy’n gwrando arnaf ac rydw i wedi cael y cymorth oedd ei angen arnaf.”

Mae'r Hangout hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar Evan 14 oed, meddai: "Mae'n lle y gallwch chi fynd iddo i wneud ffrindiau newydd a dianc rhag popeth.

"Dechreuais ddod yma oherwydd nad oedd gen i'r iechyd meddwl gorau, ond nawr oherwydd fy mod wedi bod yn dod yma a chael sesiynau 1-i-1 a siarad â phobl ac ati, mae'n bendant wedi helpu llawer."

Mae'r Hangout ar agor 3pm – 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 12pm – 6pm ar y penwythnosau a gwyliau banc. Gallwch alw heibio i’r gwasanaeth, ac nid oes angen atgyfeiriad neu apwyntiad arnoch i ymweld.

Mae hyb Caerdydd ar 26-28 Ffordd Churchill, CF10 2DY ac mae hyb Bro Morgannwg yn 3A Heol Tynewydd, y Barri, CF62 8HB. Gallwch ddarganfod mwy am yr Hangout yma: Yr Hangout, Caerdydd - Platfform.

 

Noddfa Seibiant

Image of Seibiet Sanctuary showing entrance and comfy seating space

Mae gwasanaeth Noddfa Seibiant yn cynnig amgylchedd diogel, tawel i unigolion sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.

Mae'r cyfleuster yn cael ei redeg gan Platfform ac yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n cynnig lle amgen diogel yn y gymuned i'r rhai sy'n profi argyfwng neu sydd angen cymorth iechyd meddwl brys, ac fe’i cynhelir rhwng 5pm ac 1am. Mae'n ofod nad

yw'n glinigol, sy'n ystyriol o drawma, sy'n gweithredu fel dewis arall priodol i'r Uned Achosion Brys i'r rhai mewn argyfwng iechyd meddwl.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal 365 diwrnod y flwyddyn, 7 diwrnod yr wythnos ac yn cynnig cymorth ffôn neu apwyntiad wyneb yn wyneb yr un noson.

Mae'r gofod yn therapiwtig, yn dawel ac yn llai brawychus na lleoliad ysbyty.

Dywedodd un unigolyn a ddefnyddiodd y gwasanaeth: "Rwy'n teimlo'n 10 gwaith yn iau ac yn llawer gwell o ran ysbryd nag oeddwn i pan ddes i mewn."

Siaradodd eraill am eu profiadau gyda'r tîm Noddfa: "Fyddwn i ddim yma hebddyn nhw."

“Roeddwn i'n teimlo y gallwn fod yn agored."

Gellir cyrchu'r gwasanaeth drwy ddeialu GIG 111 a phwyso opsiwn 2. Os yw'n briodol, bydd y swyddog galwadau yn cyfeirio'r claf at dîm Noddfa Seibiant Platfform, a fydd yn ceisio eu galw'n ôl o fewn 30 munud.

Bydd y tîm hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf bwyd, diod, dillad a phethau ymolchi hanfodol, pecyn gofal i'w gymryd i ffwrdd, yn ogystal â chyngor ac arweiniad ar dai a chyllid. Gallwch ddarganfod mwy am Noddfa Seibiant yma: Noddfa Seibiant: lle croesawgar mewn argyfwng - Platfform

 

GIG 111 Pwyswch 2

Text reads: Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch Ffoniwch 111 a Dewiswch opsiwn 2 ar gael 24/7

Gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl y GIG, mae gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2 yn rhedeg 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae'n addas i unrhyw un sydd angen cymorth iechyd meddwl brys.

Gellir cyrchu'r gwasanaeth trwy ddeialu 111 a dewis opsiwn 2, ac mae'n rhad ac am ddim i'w ffonio o linell dir neu ffôn symudol.

Ei nod yw cyfeirio unigolion at y cymorth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion – gall hyn fod yn gyngor hunangymorth, awgrymiadau ac arweiniad, atgyfeiriad iechyd meddwl, sefydliad partner neu weithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n briodol. Gallwch ddarganfod mwy am wasanaeth GIG 111 Pwyswch 2 yma: GIG 111 Pwyswch 2 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Gall anawsterau iechyd meddwl deimlo'n llethol, ond mae cymorth bob amser o fewn cyrraedd. Mae gwasanaethau 111 Pwyswch 2 a Noddfa Seibiant yno ar gyfer amseroedd pan fydd angen brys ac argyfwng iechyd meddwl, ond mae yna lawer o wasanaethau eraill sy'n gweithredu yng Nghaerdydd a'r Fro ar gyfer adegau llai difrifol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar wefan BIP Caerdydd a’r Fro ar y dudalen Sefydliadau Cymorth ac Elusennau .

 

Dilynwch ni