Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi: cofio am ein rhai bach a gollwyd

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi (9-15 Hydref), mae Tîm Profiad y Claf wedi gosod coed coffa yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. 

Bydd y coed hyn yn galluogi rhieni mewn profedigaeth, cleifion, teuluoedd a chydweithwyr sydd wedi profi colli babi i anrhydeddu eu hanwyliaid. Gall unigolion ysgrifennu neges i’w hongian ar y goeden a chynnau cannwyll er cof amdanynt. 

Gellir dod o hyd i’r cofebion yn y Noddfa yn Ysbyty Athrofaol Cymru (Llawr 5, Bloc B) a’r Capel yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae caplaniaid ar gael yn y ddau leoliad i unigolion sy’n chwilio am gymorth emosiynol. 

Bydd yr adeilad mamolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru hefyd yn cael ei oleuo mewn glas a phinc drwy’r wythnos i dalu teyrnged i’r babanod a gollwyd. 

Os oes angen cymorth profedigaeth arnoch, ewch i https://babyloss-awareness.org/for-bereaved-parents-families i gael gwybod mwy. 

Dilynwch ni