Yr wythnos hon (1 – 7 Awst) rydym yn ymuno â sefydliadau ledled y byd i gefnogi Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd!
Mae bwydo ar y fron yn ddewis personol ac, yn y DU, mae tua 80% o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni. Mae llawer o famau yn dewis bwydo ar y fron am y rhesymau canlynol:
Mae llaeth y fron wedi’i gynllunio’n berffaith ar gyfer eich babi
Mae llaeth y fron yn amddiffyn eich babi rhag heintiau a chlefydau
Mae bwydo ar y fron yn darparu manteision iechyd i chi
Mae llaeth y fron ar gael i’ch babi pryd bynnag y mae ei angen
Gall bwydo ar y fron feithrin cwlwm emosiynol cryf rhyngoch chi a’ch babi
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn cynnal nifer o grwpiau cymorth bwydo ar y fron cymunedol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae pob grŵp yn cael eu cynnal gan ymwelwyr iechyd neu fydwragedd profiadol, ar wahân i grwpiau cymorth gan gymheiriaid sy’n cael eu cynnal gan rieni sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu cymorth bwydo ar y fron.
Maen nhw’n gyfle perffaith i gael gafael ar gymorth a chefnogaeth a chwrdd â mamau eraill sy’n bwydo ar y fron!
Rydym hefyd yn cynnig dau grŵp bwydo ar y fron arbenigol yr wythnos y gellir cael mynediad atynt drwy atgyfeiriad gan eich bydwraig neu Weithiwr Cymorth Seren.
I gael rhagor o wybodaeth am ein grwpiau cymunedol, ewch i Cymorth arbenigol i fwydo ar y fron yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gan Dîm Seren – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales).
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ac arweiniad ar gael ar The Breastfeeding Network | Independent Breastfeeding Support a GIG 111 Cymru - Canllaw Beichiogrwydd.
Cadwch lygad am fwy o gynnwys ynghylch Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd!