Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Anableddau Dysgu 2022 – profiadau ein Hinterniaid Project Search

I dathlu Wythnos Anableddau Dysgu 2022, rydym am hyrwyddo’r gwaith rhagorol y mae ein hinterniaid Project Search wedi’i gyfrannu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae Project Search yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) fel y gallant fynd ymlaen i gael cyflogaeth yn llwyddiannus.

Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn sefydliad Project Search yn 2021, a gosodwyd interniaid mewn sawl adran yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) yn y Mynydd Bychan, gan gynnwys fferylliaeth, patholeg gellog, y bwyty, switsfwrdd a llieiniau. 

Dywedodd Rheolwr Tîm Gwasanaethau Gweithredol, Lee Barker: “Byddwn yn argymell yn fawr llogi intern o Project Search i unrhyw reolwr o fewn y bwrdd iechyd. Mae ein hinterniaid wedi dangos eu gallu trwy weithio ar draws adrannau lluosog y sefydliad. Maent yn sicr wedi profi i fod yn hanfodol i'n gweithlu, ac wedi dod yn aelodau allweddol o fewn eu timau. Mae rhai unigolion hyd yn oed wedi cael eu hannog i wneud cais am swyddi parhaol yn ein bwrdd iechyd.     

“Mae rhoi’r cyfle a’r anogaeth i’r unigolion hyn fentro’n araf i’r byd cyflogaeth mawr a brawychus wedi rhoi hyder i bob un ohonynt i gredu y GALLANT lwyddo, yn union fel pawb arall.” 

Darllenwch isod brofiadau personol ein hintern yn gweithio i’r bwrdd iechyd a beth mae Wythnos Anableddau Dysgu yn ei olygu iddyn nhw.

 

Thomas – 17

Rwyf wedi cwblhau lleoliad yn yr adran wastraff, roedd fy nghydweithwyr yn barod iawn i helpu a mwynheais yn fawr yr holl hwyl a gawsom yn gweithio fel tîm yn yr adran. Rwyf ar leoliad yn yr Adran Porthorion ar hyn o bryd ac rwyf hefyd yn ei fwynhau'n fawr. Mae'r lleoliad hwn wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau llywio, fy hyder a’m sgiliau rheoli amser.

Mae'r lleoliadau trwy Project Search wedi dysgu i mi sut i weithio'n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm. Mae fy hyder wedi gwella llawer yn ystod y cyfnod hwn ac rwy'n falch ohonof fy hun am hyn. Teimlais fy mod wir yn rhan o'r tîm yn ystod fy lleoliad.

Rwyf wedi gwneud cais am swydd o fewn y tîm porthorion ac rwy'n aros am y canlyniad. Yn y dyfodol, os na fyddaf yn gallu cael swydd yn y bwrdd iechyd hoffwn weithio gydag anifeiliaid.

 

Alberto – 19

Yn fy lleoliad cyntaf gyda'r Adran Patholeg Gellog, bûm yn cysgodi'r gwyddonwyr o fewn yr adran. Cyflawnais dasgau fel arsylwi dyraniadau a glanhau ar eu hôl. Ymhlith y pethau a fwynheais fwyaf roedd gwylio'r dyraniadau a deall beth roedd y gwyddonwyr yn ei wneud a pham. Roedd y staff yn barod iawn i helpu er mwyn diwallu fy holl anghenion.

Rwyf yn yr  Adran Fferylliaeth ar hyn o bryd, a’m cyfrifoldebau presennol yw derbyn a dadbacio cyflenwadau sy’n dod i mewn. Rwyf wir wedi mwynhau'r gwaith seiliedig ar dasgau a'r llafur corfforol sy'n ofynnol yn y rôl hon. Mae'r staff wedi bod yn barod iawn i helpu ac rwyf wedi dysgu llawer yn ystod y cyfnod hwn.

Yn y dyfodol rwy'n gobeithio cael swydd yn y lleoliadau uchod.

I mi, rwy'n meddwl bod wythnos Anabledd Dysgu yn golygu derbyn a deall nad yw pawb yn ddu a gwyn, ond mewn gwirionedd yn amrywiaeth o bosibiliadau.

 

Johnny – 17

Rwyf wedi cwblhau lleoliad yn yr Adran Porthorion, lle’r oeddwn yn gyfrifol am gasglu samplau o wahanol leoedd ar draws y safle a’u cludo i’r labordai. Helpais hefyd i symud cleifion i wardiau/clinigau ac oddi yno, ac roeddwn wedi casglu tanciau ocsigen i ddosbarthu'r rhain i'r wardiau. Mwynheais weithio yn yr adran hon oherwydd roedd yn rhaid i mi symud llawer ac felly cefais weld llawer o wahanol rannau o'r ysbyty. Rwyf wedi dysgu sgiliau llywio fel rhan o’m profiad ac mae fy hunanhyder wedi gwella. Roedd y porthorion eraill yn help mawr i mi yn ystod fy lleoliad.

Yn ystod fy lleoliad fferyllfa roeddwn yn didoli meddyginiaethau a ddychwelwyd ac yn trefnu'r ystafell stoc i ailgyflenwi a chylchdroi'r stoc i wneud yn siŵr bod popeth yn gyfredol. Roedd yn rhaid i mi hefyd ddewis meddyginiaethau amrywiol ar gyfer gwahanol wardiau/clinigau. Yn ystod fy lleoliad yn yr ystafell bost, rwyf wedi bod yn gyfrifol am labelu, cyfrif a phwyso llythyrau a pharseli a'u paratoi i'w dosbarthu.

Yn y dyfodol hoffwn weithio’n barhaol i’r GIG, yn eu hystafell bost.

Rwy'n meddwl bod Wythnos Anabledd Dysgu yn bwysig i roi gwybod i bobl am y gwahanol anableddau dysgu sydd gan bobl.

 

Dylan – 18

Rwy'n gweithio yn yr Adran Fferylliaeth ar hyn o bryd. Rwy'n gyfrifol am greu bocsys, sy'n ymwneud â chasglu meddyginiaethau amrywiol o wahanol leoliadau yn y storfeydd meddyginiaeth a'u pecynnu i'w dosbarthu i wahanol wardiau a chlinigau. Rwyf hefyd yn helpu i ddidoli’r feddyginiaeth a ddychwelwyd gan wneud yn siŵr bod y feddyginiaeth wedi’i dosbarthu gan y Bwrdd Iechyd hwn, ei bod o fewn y dyddiad a’i bod heb ei hagor ac felly y gellir ei dychwelyd i’r stoc. Rwy'n cael gwared yn gywir ar feddyginiaeth sydd wedi dyddio a hefyd yn cylchdroi stoc o fewn yr ystafell stoc i sicrhau ei fod yn drefnus.

Rwyf wedi mwynhau'r cyfrifoldeb sydd gennyf yma a chael fy nhrin fel oedolyn yn ogystal â'r cymudo i'r gwaith ac adref.

Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn gymwynasgar ac yn cynnig arweiniad pan fydd angen. Rwyf wedi teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi’n fawr gan fy nghydweithwyr ac rwy’n hoffi gweithio fel rhan o’r tîm.

Mae'r lleoliad wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac rwyf wedi gallu dangos fy sgiliau i bobl.

Hoffwn fynd i'r coleg nesaf, tra'n cadw fy swydd ran amser.

Mae wythnos Anabledd Dysgu yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o bobl ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol a pha mor bwysig yw hi iddynt gael cyfleoedd gwaith.

 

Charlotte – 19

Rwy'n gwisgo dau gymorth clyw ac rwy'n gwisgo sbectol ac roeddwn yn cael trafferth siarad.

Rwyf wedi cwblhau lleoliad 10 wythnos yn y Gegin sef bwyty’r ysbyty. Roedd fy nhasgau'n cynnwys diheintio’r bwrdd, glanhau ac ailgyflenwi'r diheintydd a gwagio'r biniau. Rwy'n gwisgo dau gymorth clyw a sbectol ac rwy'n cael trafferth siarad, roedd fy nhîm yn gymwynasgar ac yn gefnogol iawn. Fe wnes i hefyd weini bwyd fel brechdanau a pizza i'r cwsmeriaid ac fe wnes i wir fwynhau cwrdd â nhw i gyd.

Mae fy lleoliad newydd yn y maes Cadw Tŷ ac rwy’n gweithio yn y creche yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yma, rhaid i mi lwytho a dadlwytho'r peiriant golchi llestri, glanhau'r byrddau a mopio'r lloriau. Rydw i wir yn mwynhau gweithio gyda fy nhîm yma.

Yn y dyfodol byddwn wrth fy modd yn astudio yn y coleg ac yn gweithio mewn bwyty.

Mae Wythnos Anabledd Dysgu yn golygu bod gwahaniaethau pawb yn cael eu cydnabod a'u dathlu.

 

Jay – 17

Roedd fy lleoliad cychwynnol yn yr adran Llieiniau, dechreuais weithio yma ar y system 'banc' yn cyflenwi ar gyfer staff oedd yn sâl. Nawr rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i sicrhau contract rhan amser, gan weithio 30 awr yr wythnos.

Mae fy nyletswyddau'n cynnwys rhoi trefn ar y lliain ffres a gwneud y swm cywir o bob eitem ar gyfer pob adran. Rhoddaf y lliain i'm hardaloedd; mamolaeth a phediatreg. Rwy'n casglu'r lliain budr o'r adrannau hyn ac yn dod ag ef yn ôl. Rwyf hefyd yn helpu i lwytho a dadlwytho'r lori golchi dillad.

Rwy'n hoff iawn o'r amgylchedd rwy'n gweithio ynddo gan fod yr awyrgylch gyda fy nghydweithwyr yn dda. Rydyn ni'n gweithio'n galed ond rydyn ni'n cael llawer o hwyl. Rwy'n teimlo wedi ymgartrefu, fel fy mod wedi bod yma am lawer hirach nag yr wyf mewn gwirionedd.

Rwyf wedi dysgu bron pob llwybr ac rwy'n hyderus i weithio ar unrhyw faes. Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael cyfle i brofi fy hun ac wedi cael swydd. Nawr rwy'n teimlo'n annibynnol ac yn bendant yn fwy aeddfed.

 

Jaydon – 18

Rwy'n gweithio yn yr Adran Fferylliaeth ar hyn o bryd. Fe wnes i ond cwblhau un lleoliad yn y bwrdd iechyd, gan fod swydd ran amser wedi codi yn yr adran ac roeddwn yn ffodus i'w chael. 

Rwy'n gweithio yn y maes 'derbyn nwyddau'. Rwy'n defnyddio taflenni sy’n cynnwys archebion er mwyn dod o hyd i'r feddyginiaeth o'r mannau cywir fel y storfa neu'r oergell, yna rwy'n ei rhoi mewn bocs a'i roi ar y silff i'r porthorion ei dosbarthu.

Rwy'n hoffi gweithio a chael fy nhrin fel oedolyn. Rwy'n hoffi'r ffordd mae'n rhaid i mi symud o gwmpas ym mhobman a siarad â phawb, rwy'n gwybod enw pawb.

Rwy'n hoffi gweithio i'r GIG oherwydd mae'n swydd bwysig, rydym yn wirioneddol yn helpu pawb.

Dilynwch ni