Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn ymweld â Thîm Arloesi Siapio Newid Caerdydd a'r Fro

14 Tachwedd

Wythnos diwethaf, gwnaeth y Tîm Arloesi Siapio Newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro (Hwb RIC) gyflwyniad i Vaughan Gething, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, mewn digwyddiad arloesi rhanbarthol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Roedd y cyfarfod partneriaeth yn gyfle i arddangos rôl sylweddol arloesi rhanbarthol wrth ysgogi gwelliannau i iechyd a lles yn ogystal â thwf economaidd.

Cyflwynodd Tîm Arloesi BIP Caerdydd a’r Fro rywfaint o’u gwaith allweddol sy’n digwydd ar draws y Bwrdd Iechyd megis yr Her Endosgopi sy’n ceisio syniadau arloesol i gyflymu’r broses o ddarparu triniaethau endosgopi, gwella mynediad a lleihau amseroedd aros i gleifion, a’r Arddangosfa Arloesi mewn Dementia diweddar, digwyddiad yn YALl a ddangosodd rai o'r technolegau blaengar diweddaraf ar gyfer gwell cefnogaeth.

Manteisiodd Hwb yr RIC ar y cyfle i arddangos yr effaith y mae’n ei chael ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn enwedig o ran presgripsiynu cymdeithasol, gofal iechyd cynaliadwy a phrofiad bywyd.

Cyflwynwyd y Gweinidog hefyd i amrywiaeth o fentrau arloesi gofal iechyd eraill sydd ar waith yn rhanbarth Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg; o gynaliadwyedd a phrototeipio i weithgynhyrchu, a SMART Housing.

Gwnaeth y digwyddiad gysylltu’r mynychwyr â ffigurau dylanwadol yn y diwydiant technoleg; gan ddarparu llwyfan ar gyfer cydweithrediadau a phartneriaethau posibl.

Wrth annerch y rhai a oedd yn bresennol, dywedodd y Gweinidog “Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i weld y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr hwb a’r partneriaethau sydd wedi’u ffurfio ers ei sefydlu. Mae arloesi yn hanfodol nid yn unig oherwydd ei werth i’n heconomi, ond am ei botensial i newid Cymru er mwyn canolbwyntio’n well ar ganlyniadau cymdeithasol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau arloesi a’r defnydd o dechnolegau newydd, a all gefnogi Cymru wyrddach, gyda gwell iechyd, gwell swyddi a ffyniant i bawb.”

Dywedodd Zoe Hilton, Rheolwr Rhaglen Arloesi, BIP Caerdydd a’r Fro:

“Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i rannu’r gwaith arloesi arbennig sy’n digwydd ar draws De Cymru gyda’r gweinidog. Cyfle i gydweithio ymhellach gyda’n partneriaid, rhannu a dysgu ac ysbrydoli.”

Dywedodd Catherine Peel, Uwch Reolwr Rhaglen Gwella Gwasanaethau Hwb RIC:

“Roedd yn wych cael y cyfle i ddangos y berthynas waith agos rhwng Hybiau Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol ar yr agenda ac mae rhai cynlluniau cyffrous ar y gorwel”.

Dilynwch ni