Neidio i'r prif gynnwy

Timau BIP Caerdydd a'r Fro yn cael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Canser Moondance

Mae staff o BIP Caerdydd a’r Fro wedi’u cydnabod yng Ngwobrau cyntaf Menter Canser Moondance am eu cyflawniadau a’u harloesedd mewn gwasanaethau canser dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Derbyniodd pum tîm wobrau yn y seremoni a gynhaliwyd neithiwr (Mehefin 16) yn y Depot, Caerdydd dan ofal cyflwynydd y BBC, Jason Mohammad.

Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol:

  • Arweinydd Meddygol Newydd – Hasan Haboubi, Gastroenterolegydd Ymgynghorol
  • Ymateb i COVID – Tîm Llawdriniaeth Ddewisol Amddiffynnol (Bwrdd Clinigol Llawfeddygaeth)
  • Arloesi yn y Sector Annibynnol – Endosgopi Traws-drwynol (Olympus Medical, BIP Caerdydd a’r Fro a BIP Cwm Taf Morgannwg)
  • Arloesi mewn Triniaeth – Grŵp Oncoleg Genomeg Cymru Gyfan (AWMGS)
  • Gwobr Gweithio Gyda’n Gilydd – Cydweithrediad Canser yr Ysgyfaint De Cymru (BIP Caerdydd a’r Fro a BIP Bae Abertawe)

 

Mae Gwobrau Canser Moondance yn dathlu ac yn rhoi sylw i bobl ledled GIG Cymru a’i bartneriaid sydd wedi cynnal ac arloesi ym maes gwasanaethau canser er gwaethaf amgylchiadau eithriadol y ddwy flynedd ddiwethaf.

Maent yn amlygu’r arloesi a’r gwaith partneriaeth ar draws holl Fyrddau Iechyd y GIG i wella’r gwaith o ganfod canser, rhoi diagnosis a thrin cleifion yng Nghymru.

Dilynwch ni