Mae staff o BIP Caerdydd a’r Fro wedi’u cydnabod yng Ngwobrau cyntaf Menter Canser Moondance am eu cyflawniadau a’u harloesedd mewn gwasanaethau canser dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Derbyniodd pum tîm wobrau yn y seremoni a gynhaliwyd neithiwr (Mehefin 16) yn y Depot, Caerdydd dan ofal cyflwynydd y BBC, Jason Mohammad.
Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol:
Mae Gwobrau Canser Moondance yn dathlu ac yn rhoi sylw i bobl ledled GIG Cymru a’i bartneriaid sydd wedi cynnal ac arloesi ym maes gwasanaethau canser er gwaethaf amgylchiadau eithriadol y ddwy flynedd ddiwethaf.
Maent yn amlygu’r arloesi a’r gwaith partneriaeth ar draws holl Fyrddau Iechyd y GIG i wella’r gwaith o ganfod canser, rhoi diagnosis a thrin cleifion yng Nghymru.