Neidio i'r prif gynnwy

Staff yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i'r Gymraeg

1 Mawrth 2021

Mae tri aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg.

Derbyniodd Lorraine Coultis, Dr Hywel Roberts a Lorena Garcia-Wright Wobrau newydd y Gymraeg am eu hymdrechion i hyrwyddo, datblygu a dathlu’r Gymraeg yn y Bwrdd Iechyd.

Mae’r gwobrau newydd, a noddir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi’u cyflwyno i gydnabod staff sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu’r Gymraeg yn eu hadrannau a’u meysydd gwasanaeth.

Wedi’u lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi, caiff Gwobrau’r Gymraeg eu rhoi’n flynyddol i amlygu’r unigolion hynny sydd wedi gwneud newidiadau yn eu gwaith i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hymgorffori’n llawn.

Cafodd Lorraine Coultis, Arweinydd Clinigol Theatrau Plant, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, ei dewis ar gyfer y wobr am ei brwdfrydedd a’i hymdrech i sicrhau bod yr holl gleifion a staff yn gallu defnyddio’r Gymraeg pan fyddant mewn Theatrau Plant, drwy greu arddangosfeydd Cymraeg i gleifion edrych arnynt cyn eu llawdriniaeth.

Gwnaeth Lorraine hefyd greu murlun Cymraeg rhyngweithiol i groesawu cleifion ifanc a’u teuluoedd i Ward y Gofod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. 

Dr Hywel Roberts, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yw ail enillydd y gwobrau newydd hyn, am iddo sicrhau bod yr holl staff sy’n siarad Cymraeg, a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ar ei ward, yn gallu cael gafael ar sticeri a greodd yn ei amser ei hun i staff gael dangos i gleifion eu bod yn siarad Cymraeg, tra eu bod yn gwisgo PPE yn ystod y pandemig COVID-19.  Roedd Hywel hefyd yn ddigon caredig i rannu’r syniad hwn gydag Adran y Gymraeg i staff gael defnyddio’r sticeri ar wardiau eraill pe bai angen.

Trydydd enillydd eleni yw Lorena Garcia-Wright, Therapi Galwedigaethol, Ysbyty Athrofaol Llandochau, am weithio gyda chleifion hŷn sy’n siarad Cymraeg ar wardiau iechyd meddwl yr henoed, E12 yn enwedig, a chreu wal ryngweithiol iddynt ei defnyddio ochr yn ochr â staff, lle gallant roi’r diwrnod, y dyddiad, y tymor a phethau eraill yn ddyddiol i gadw eu meddwl yn effro, gan ymgorffori’r Gymraeg ar yr un pryd.

Dywedodd Jessica Sharp, Swyddog y Gymraeg yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae darparu ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwella gofal yn sylweddol ar gyfer cleifion Cymraeg eu hiaith, a hoffwn ddiolch i Lorraine, Dr Roberts a Lorena, a’u llongyfarch ar eu hymdrechion i gyfrannu at hyn.

“Dyma’r flwyddyn gyntaf y bydd y Bwrdd Iechyd yn cymryd rhan mewn unrhyw beth tebyg i hyn, ac rwy’n gobeithio y bydd yn annog eraill i ymuno a’n helpu i symud tuag at fod yn fwrdd iechyd cwbl ddwyieithog yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r gwobrau yn rhan o ymgyrch Meddwl Cymraeg y Bwrdd Iechyd, sy’n annog cyflogeion i roi’r Gymraeg ar flaen eu meddwl, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg.

Mae Tîm y Gymraeg hefyd wedi bod yn gweithio ar fasgot Cymraeg, a ymddangosodd ar furlun yn Ward y Gofod, a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Bwrdd Iechyd. 

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau’r Gymraeg neu sut y gallwch helpu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Bwrdd Iechyd fel rhan o’r ymgyrch Meddwl Cymraeg, e-bostiwch cav.welshlanguageteam@wales.nhs.uk

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gall Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro helpu i wneud pethau’n well ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr â’n hysbytai, ewch i wefan yr Elusen Iechyd.

24/02/2022

Dilynwch ni