28 Chwefror
Mae protest yn cael ei chynnal heddiw (28 Chwefror) sy’n debygol o darfu ar ardal Caerdydd a’r cyffiniau, ac mae’n sicr y bydd yn peri pryder mawr i’r rhai o fewn y diwydiant amaethyddol.
Mae’n bosibl y bydd cleifion yn profi oedi wrth deithio i safleoedd ein hysbytai, a fyddech cystal â chymryd hyn i ystyriaeth cyn i chi deithio a ffoniwch ymlaen llaw os bydd unrhyw darfu ar eich taith.
Mae cynlluniau wrth gefn addas yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gan dimau cymunedol i sicrhau’r tarfu lleiaf ar ofal hanfodol i gleifion.
I gael rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd, ewch i'r dudalen we hon.
Diolch i chi am eich cydweithrediad.