19 Hydref 2022
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch iawn o lansio ‘HOSPES’, prosiect ymdrwythol, benodol i safle a phorth ar-lein a grëwyd gan y cyfansoddwr a’r artist amlgyfrwng arobryn, John Meirion Rea, mewn cydweithrediad â’r ffilmiwr a’r ffotograffydd, Huw Talfryn Walters.
HOSPES
Lladin
Enw Hospes (genidol hospitis); trydydd rhediadol
1. Cynhaliwr
2. gwestai, ymwelydd
Gellir dod o hyd i’r prosiect ar lawr cyntaf Capel i Bawb a adnewyddwyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, uwchben caffi Aroma, yn y capel gwreiddiol sydd wedi’i ail-ddylunio’n fendigedig.
Mae HOSPES yn rhan o brosiect Ysbyty Brenhinol Caerdydd: pobl, lle, dyfodol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy gronfa’r Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles, ac mae wedi bod ar y gweill ers blwyddyn. Mae cyfansoddiad y sain a’r prosiect trawiadol yn dathlu lleisiau cryf ein cymunedau amlddiwylliannol unigryw, ac mae’r porth ar-lein yn darparu gwaddol digidol ar gyfer y prosiect celfyddydol arloesol hwn.
“Mae HOSPES yn brosiect ymdrwythol, benodol i safle a phorth ar-lein, sy’n gosod Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol. Rwyf wedi treulio’r un mis ar ddeg diwethaf yn estyn allan i’r strydoedd a’r bwrdeistrefi cyfagos, yn recordio sgyrsiau, seinweddau haniaethol, ac yn cofnodi delweddau mewn ymgais i ddiffinio, neu o leiaf chwilio am ymdeimlad o beth allai ‘Cymreictod trefol’ modern fod.
Mae llawer o fy ngwaith creadigol wedi’i ysbrydoli gan leisiau pobl Cymru; mae fy niddordeb wedi bod ar natur felodig, a gweadau iaith a thafodiaith a sut mae hyn yn ein helpu i ddysgu rhywbeth am ein hanes a rennir, a’r presennol cyfunol.
Gellir olrhain Hanes Tredegarville, y Sblot, ac Adamsdown yn ei bensaernïaeth: yn benodol yn y newid o’i ddefnydd a’i swyddogaeth, p’un a na chaiff ei ddefnyddio bellach, neu os caiff ei ddymchwel yn llwyr a’i ddisodli gan y newydd. Ond os edrychwn yn fanylach ar y trawsnewidiad hwn, daw darlun i’r amlwg o newid yn y boblogaeth, a’r cymunedau sy’n byw, ac sydd wedi byw yma. Mae hyn yn arbennig o wir am yr Ysbyty, a’i ffurf flaenorol fel Fferyllfa yn y rhan hon o’r Ddinas. Gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli hanes dau gan mlynedd, a gwreiddiau Caerdydd fel Dinas, a ffurfiwyd yn y Chwyldro Diwydiannol gan ddechrau gyda chyfarfod wedi’i gadeirio gan 2il Ardalydd Bute yn Neuadd y Dref, Caerdydd, ym 1822. Felly, ceir cyferbyniad diddorol o barhad a byrhoedledd, o ran ‘awyrgylch caled’ yr adeiladau eu hunain a’r trawsnewidiad yn eu defnydd, yn ogystal â’r ‘awyrgylch meddal’ sy’n esblygu’n barhaus o ieithoedd, tafodieithoedd a bydoedd sain gwasgaredig.“ -John Meirion Rea
Mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn eich gwahodd i ymweld â ‘HOSPES’:
Llawr Cyntaf
Capel i Bawb
Caffi Aroma
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Mynedfa Heol Glossop
Caerdydd
CF24 OJT
Tuesday 18th October 10-4pm
Wednesday 19th October 10-4pm
Thursday 20th October 10-7pm
Friday 21st October 10-4pm
Saturday 22nd October 10-2pm
Monday 24th October 10-4pm
Tuesday 25th October 10-2pm
Mae Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn adeilad eiconig, nodedig yng Nghaerdydd sy’n llawn treftadaeth a hanes gofal iechyd. Y ‘CRI’, a oedd yn ysbyty hyfforddi nyrsys ac uned cleifion mewnol yn flaenorol, yw’r cyntaf o Ganolfannau Lles BIP Caerdydd a’r Fro, gan ddarparu gwasanaethau i rai o’r bobl fwyaf bregus ac ar y cyrion yn ein cymunedau, ochr yn ochr â gwasanaethau gofal iechyd rheolaidd. Wrth i ni ailddiffinio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, ein bwriad yw darparu gofal hygyrch a chyfartal i bawb, ac adrodd straeon unigryw, hynod ddiddorol y bobl o fewn ein cymunedau.
Rydym yn ddiolchgar iawn i John Meirion Rea a’i dîm am greu’r gwaith celf a’r gwaddol digidol gwych yma.