Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect gardd adsefydlu yn yr ail safle yng Ngwobrau Coedwig y GIG 2024

18 Hydref 2024

Mae cleifion, cydweithwyr a gwirfoddolwyr yn Nhai Ffordd y Parc Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio i drawsnewid darn o dir segur yn ardd therapiwtig ffyniannus, ac wedi’u gosod yn yr ail safle i dderbyn Gwobr Prosiectau Mannau Gwyrdd Cydweithredol yng Ngwobrau Coedwig y GIG ar 4 Hydref.

Mae Prosiect yr Ardd @ Ffordd y Parc wedi creu man diogel lle mae garddio’n therapi. Mae’r ardd wedi’i lleoli yn Nhai Ffordd y Parc yng Nghaerdydd, uned adsefydlu 13 gwely lle mae unigolion sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi i symud ymlaen i fyw’n annibynnol neu mewn llety â chymorth.

Dechreuodd y gwaith ar y tir segur ym mis Gorffennaf 2023 ac, ers hynny, mae’r gofod wedi’i drawsnewid yn fan gwyrdd ffyniannus. Mae cleifion, cydweithwyr a gwirfoddolwyr wedi cydweithio i adeiladu a chynnal a chadw’r ardd, ac i dyfu amrywiaeth o gynnyrch gan gynnwys tomatos, ffa, perlysiau a mwy. Mae’r cynnyrch ffres yn cael ei rannu gyda wardiau eraill o fewn y gymuned iechyd meddwl.

Mae wedi rhoi cyfle i gleifion yn Nhai Ffordd y Parc gysylltu â natur a gweld twf a ffrwyth eu hymdrechion.

Dywedodd Owen Baglow, Rheolwr Ward yn Nhai Ffordd y Parc: “Mae’r gofod hwn yn gwella bioamrywiaeth, gan ddarparu cynefinoedd i fywyd gwyllt tra’n cynnig amgylchedd tawel i gleifion a staff.”

Ym mis Ionawr 2024, ychwanegwyd gardd natur gyda phwll, dôl blodau gwyllt a 122 o goed brodorol.

Dywedodd Owen: “Mae derbyn cydnabyddiaeth drwy fod yn yr ail safle ar gyfer y Wobr Mannau Gwyrdd Cydweithredol yn golygu cymaint i’n tîm. Mae’n dilysu’r holl waith caled a’r ymroddiad i’r prosiect a ddangoswyd gan bawb. Mae’r wobr hon yn dyst i bŵer cydweithredu a’r effaith gadarnhaol y gall mannau gwyrdd ei chael ar iechyd meddwl a lles cymunedol.

“Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i dyfu a meithrin y gofod hwn ar gyfer yr holl gleifion a staff yn Ffordd y Parc.”

Dilynwch ni