Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect arloesol sy'n arwain y ffordd ar draws gwledydd cartref y DU eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr i brognosis cleifion

 

Roedd dydd Mawrth 17 Medi yn nodi #DiwrnodDiogelwchCleifionYByd; ymgyrch fyd-eang dan arweiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i godi ymwybyddiaeth o'r gwallau diagnostig sy'n cyfrannu at niwed i gleifion.

Drwy gydol mis Medi mae cydweithwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cydlynu amrywiol ddigwyddiadau a fforymau i hyrwyddo sut mae technoleg uwch a dysgu â chymorth yn cefnogi clinigwyr i wneud diagnosis cyflym, cywir a diogel o fewn ymarfer clinigol ar draws pob lefel o ofal iechyd. Fe wnaethom gynnwys rhai o'r mentrau hyn yma.

Un digwyddiad o'r fath a gynlluniwyd i addysgu a hyrwyddo gwelededd y mentrau arloesol rhyfeddol hyn oedd cyfarfod 'Y Rownd Fawr' â thema arbennig ddydd Mercher 11 Medi yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Bu Dr Shakeel Ahmad, Meddyg Strôc ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Strôc yng Nghymru yn trafod y cyfrifoldebau moesol, clinigol a chyllidol o fewn gofal iechyd i hybu’r uchelgais i ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau strôc rhanbarthol wedi’u hategu gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau digidol.

https://pbs.twimg.com/profile_images/1586033477778030592/nlgPVSri_400x400.jpg

Gan fyfyrio ar 2 astudiaeth achos ddiweddar, trafododd Dr Ahmad sut y daeth 2 ŵr 65+ oed i Ysbyty Athrofaol Cymru gyda symptomau acíwt tebyg o Asaffia a gwendid ar yr ochr dde (symptomau niwed i’r rhannau o’r ymennydd sy’n rheoli iaith), yr oedd angen gofal iechyd parhaus yn yr ysbyty am 6 mis ar un ohonynt.

Fodd bynnag, gellir bellach ddefnyddio ap arloesol newydd o’r enw ‘Brainomix’ i sganio delweddau cleifion gan roi darlun graffigol cyflym a manwl i glinigwyr sy’n eu galluogi i ddehongli sganiau’r ymennydd a phenderfynu a ddylid cynnal thrombectomi ai peidio (sy’n cynnwys tynnu clot y gwaed yn fecanyddol) neu ragnodi cyffur chwalu clotiau i'r claf, a elwir yn thrombolysis.

“Mae cleifion yn derbyn y gofal iawn ar yr amser iawn ac nid ydynt yn cael eu gadael ar ôl”, Dr Ahmad.

Mae’r prosiect arloesol hwn sy’n arwain y ffordd ar draws gwledydd cartref y DU eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr i brognosis cleifion gan gynnwys mam newydd a fferyllydd Nisha Patel a gollodd y teimlad yn ei braich yn sydyn, ac yn dilyn hynny, ei gallu i siarad. Yn ddiweddar gwnaeth ITV Wales News roi sylw i’r stori a gallwch ei gweld yma.

Dilynwch ni