Nod astudiaeth newydd dan arweiniad Cymru yw gweld a all profion Pwynt Gofal cyflym ar gyfer tri feirws anadlol cyffredin mewn babanod helpu i leihau'r angen am driniaethau mewnwthiol, derbyniadau i'r ysbyty a’r defnydd o wrthfiotigau.
Mae astudiaeth REFINE yn hap-dreial peilot dan reolaeth sydd wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda’r nod o recriwtio 60 o fabanod sy'n dangos symptomau twymyn yn Adrannau Achosion Brys dau ysbyty yng Nghymru.
Twymyn yw’r ail reswm mwyaf cyffredin pam mae babanod yn dod i Adrannau Achosion Brys i gael gofal. Mae babanod o dan dri mis oed yn arbennig o agored i niwed ac maen nhw’n fwy tebygol o angen triniaethau mewnwthiol na phlant hŷn. Bydd profion Pwynt Gofal cyflym yn rhan o REFINE yn profi am dri feirws cyffredin: RSV (feirws syncytiol resbiradol), COVID (SARS-CoV-2), a Ffliw (influenza). Byddan nhw’n defnyddio un swab o'r trwyn neu'r gwddf ac yn rhoi canlyniadau cyflym i feddygon yn yr Adran Achosion Brys.
Bydd babanod sydd wedi cael eu hymrestru yn yr astudiaeth yn cael eu neilltuo ar hap i dderbyn naill ai gofal safonol neu ofal safonol yn ogystal â'r prawf Pwynt Gofal. Bydd tîm REFINE yn asesu dichonoldeb cynnal yr astudiaeth hon ar raddfa fwy mewn nifer o Ymddiriedolaethau yn y DU.
Mae astudiaeth REFINE yn cael ei chynnal o'r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae’n cael ei harwain gan Dr Jordan Evans a Dr Joanne Euden. Mae gan Dr Jordan Evans ddyfarniad amser ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae’n ymgynghorydd mewn meddygaeth frys bediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Dr Joanne Euden yn gymrawd ymchwil yn adran Haint, Llid ac Imiwnedd y Ganolfan Treialon Ymchwil ac yn arweinydd thema ar gyfer clefydau heintus yn yr adran.
“Pan fydd baban ifanc yn dod i'r Adran Achosion Brys gyda thwymyn, rhaid i ni asesu'n gyflym y risg o heintiau difrifol megis llid yr ymennydd a sepsis. Drwy astudiaeth REFINE, rydyn ni’n cymryd y cam cyntaf i weld a all profion feirysol cyflym helpu i adnabod yn ddiogel fabanod sydd mewn perygl isel o'r heintiau difrifol hyn, sy'n golygu y byddan nhw’n cael llai o driniaethau poenus ac yn cael eu rhyddhau’n gyflymach adref gyda'u teuluoedd.
Mae REFINE yn enghraifft gyffrous o sut y gall ymchwil wedi’i harwain gan Gymru drosi’n uniongyrchol i ymarfer clinigol. Drwy ddod â chlinigwyr, ymchwilwyr, a chynrychiolwyr cleifion at ei gilydd o bob rhan o Gymru, rydyn ni’n gosod y sylfaen ar gyfer astudiaethau a allai ddylanwadu ar ofal babanod ledled y DU a thu hwnt.”
- Dr Jordan Evans (Ymgynghorydd mewn meddygaeth frys bediatrig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)
“Rwy wrth fy modd yn cael bod yn gyd-arweinydd ar yr astudiaeth hon, gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflawni’r ymchwil bwysig hon. Rydyn ni’n obeithiol y bydd yr astudiaeth beilot hon yn arwain at hap-dreial dan reolaeth llawer mwy, ar nifer o safleoedd ledled y DU i ymchwilio ymhellach i ganlyniadau clinigol babanod pan fydd prawf Pwynt Gofal yn rhan o’u gofal.”
- Dr Joanne Euden (Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd)
Mae partneriaid cydweithredol ar yr astudiaeth yn cynnwys academyddion o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe, CEDAR (Canolfan ar gyfer Gwerthuso Gofal Iechyd, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil – cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd), a chlinigwyr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Mae’r tîm astudio hefyd yn gweithio gyda chynrychiolwyr Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) i helpu i lywio dyluniad a dogfennau’r astudiaeth. Mae’r astudiaeth yn cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn rhedeg am 21 mis, gyda chanlyniadau’n cael eu disgwyl yn 2027. Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Am ymholiadau ynghylch yr astudiaeth, anfonwch e-bost at REFINE@cardiff.ac.uk.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.