Mae Elusen Canser Plant Cymru LATCH yn lansio ei phen-blwydd yn 40 oed drwy benodi dau noddwr newydd — gan gynnwys yr Athro Meriel Jenney, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.
Yr Athro Meriel Jenney, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Mr Edward Watts MBE DL, Dirprwy Raglaw Gwent a Chadeirydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yw noddwyr cyntaf yr elusen.
Sefydlwyd Elusen Canser Plant Cymru LATCH ym 1983 i ddarparu cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, sydd wedi cael diagnosis o ganser neu lewcemia ac sydd dan ofal yr Uned Oncoleg yn Ysbyty Plant Cymru, yng Nghaerdydd.
Mae’r elusen yn darparu gwasanaethau ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd ac yn darparu cymorth i Uned Oncoleg Bediatreg Ysbyty Plant Cymru drwy ariannu offer meddygol ac ystod o brosiectau clinigol ac ymchwil.
Mae gan yr Athro Meriel Jenney gysylltiad hirsefydlog gyda LATCH drwy ei gwaith fel Meddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Bediatreg yn Ysbyty Plant Cymru ers 1996. Bu’r Athro Jenney yn arwain y gwasanaethau canser plant yng Nghymru am dros ddau ddegawd.
Mae ganddi ddiddordeb ymchwil ers tro mewn treialon clinigol ym maes sarcoma yn ystod plentyndod a datblygu mesurau i asesu ansawdd bywyd plant sydd wedi cael triniaeth ar gyfer canser yn ystod plentyndod.
Mae Mr Edward Watts MBE DL wedi bod yn gwirfoddoli ar gyfer sawl elusen ers dros hanner can mlynedd ac mae ganddo gysylltiad personol cryf â LATCH.
Rhaglaw Gwent a Chadeirydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
Dros y deugain mlynedd diwethaf, o ganlyniad i ymdrechion codi arian rhagorol ein cefnogwyr, mae LATCH wedi rhoi dros £15 miliwn i ddarparu gwasanaethau i blant a theuluoedd yng Ngorllewin, De, Dwyrain a Chanolbarth Cymru. Heddiw mae’r elusen, ar gyfartaledd, yn helpu 120 o deuluoedd ar y tro. Mae’r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddarparu cymorth holistaidd i blant a theuluoedd dan ofal yr Uned Oncoleg Bediatreg.
Dywedodd Mrs Susan Gwyer-Roberts, Cadeirydd LATCH: “Rydym yn falch iawn o groesawu Edward a Meriel fel noddwyr yr elusen wrth i ni lansio ein dathliadau i nodi’r garreg filltir bwysig hon yn hanes yr elusen.
“Diolchwn iddynt am dderbyn y rôl broffil uchel hon ac edrychwn ymlaen at eu cyfraniad wrth ddatblygu LATCH yn y dyfodol. Bydd y rolau hyn yn ategu ymroddiad ac ymrwymiad rhagweithiol ein cefnogwyr ffyddlon ymhellach, sy’n nodwedd allweddol o’r elusen ers iddi gael ei chreu ym 1983 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Yn ogystal â’i gwasanaethau teuluol, mae LATCH wedi cefnogi ystod o brosiectau buddsoddi cyfalaf yn Ysbyty Plant Cymru, gan gynnwys adnewyddiad sylweddol Ward yr Enfys yn 2021 gwerth £1.2m, sef y ganolfan arweiniol ar gyfer oncoleg bediatreg yn Ne a Gorllewin Cymru.
Aeth Mrs Gwyer-Roberts yn ei blaen: “Roedd y buddsoddiad hwn gan yr elusen yn gallu cadarnhau ei hymrwymiad i gefnogi cleifion, eu teuluoedd a’r clinigwyr drwy drawsnewid Ward yr Enfys. Nod LATCH yw parhau i adeiladu ar y cyflawniadau hyn dros y 40 mlynedd nesaf.”
I nodi’i phen-blwydd yn 40, bydd LATCH yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn 2023. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr elusen: latchwales.org neu ewch i: Elusen Canser Plant Cymru LATCH | Facebook.