Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Alcohol Cymunedol Caerdydd yn ennill gwobr y DU am addysgu pobl ifanc am beryglon yfed yn ormodol

Mae Partneriaeth Alcohol Cymunedol Caerdydd (CAP) wedi ennill gwobr ledled y DU am ei gwaith yn addysgu myfyrwyr a phobl ifanc am beryglon yfed yn ormodol.   

Derbyniodd cydweithwyr yn y CAP, a lansiwyd yn 2018, y wobr mewn digwyddiad yn San Steffan ddydd Mawrth, 27 Mehefin.  

Canmolwyd y bartneriaeth am y gwaith y mae wedi'i wneud i ymgysylltu â phobl ifanc 18 i 25 oed yn y ddinas. Cafodd ei menter Bws Diogelwch ganmoliaeth arbennig am ei gwaith yn darparu cefnogaeth ar nosweithiau prysuraf Caerdydd i aelodau o'r cyhoedd sy'n unig ac yn agored i niwed. Ers mis Medi 2023, mae'r bws wedi cefnogi mwy na 600 o bobl.   

Mae mentrau eraill yn cynnwys:  

  • Gweithio gydag undebau myfyrwyr i hyrwyddo diodydd di-alcohol;  

  • Gweithio gyda Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a'r Fro i gynnig lleoliad blwyddyn o hyd i israddedigion Seicoleg bob blwyddyn. Yn ystod y lleoliad, mae'r myfyrwyr yn cefnogi'r CAP i ddylunio adnoddau alcohol ar gyfer y grŵp oedran 18-25;  

  • Gweithio gyda safleoedd trwyddedig i hyrwyddo yfed cyfrifol a diogelwch cwsmeriaid. 

Dywedodd Lauren Idowu, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd CAP Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon am waith ein grŵp i gyrraedd pobl ifanc 18 i 25 oed. Mae gan Gaerdydd boblogaeth fawr o fyfyrwyr a phobl ifanc a thrwy weithio mewn partneriaeth gallwn helpu i sicrhau y gallant fwynhau cymdeithasu ac economi'r nos yn ddiogel p'un a ydynt yn breswylydd neu'n ymweld. Mae'r wobr yn dyst i'r gwaith gwych y mae holl aelodau'r bartneriaeth yn ei wneud, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu hyn ymhellach yn y dyfodol.” 

Ar hyn o bryd mae 251 o bartneriaethau CAP yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Maent yn dod â rhanddeiliaid lleol ynghyd sydd â diddordeb cyffredin mewn atal yfed o dan oed, ac annog oedolion ifanc i yfed yn gyfrifol.  

Mae partneriaethau CAP yn cynnwys manwerthwyr, awdurdodau lleol, yr heddlu, ysgolion, grwpiau cymdogaeth a darparwyr iechyd, sy'n cydweithio i amddiffyn pobl ifanc rhag niwed alcohol.  

Mae adroddiad blynyddol CAP, a lansiwyd yn y digwyddiad, yn dangos sut mae'r dull partneriaeth arloesol hwn wedi arwain at ostyngiadau sylweddol yn arferion yfed plant a phobl ifanc, ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwerthiannau dan oed mewn ardaloedd lle mae wedi creu partneriaethau lleol:  

Yn genedlaethol, mae gwerthusiadau CAP yn dangos:  

  • Gostyngiad o 64% mewn arferion yfed wythnosol i bobl ifanc 13 i 16 oed  

  • Ar ôl hyfforddiant CAP, pasiodd 98% o fanwerthwyr brawf cydymffurfio Her 25 - o linell sylfaen gyfartalog o 52%  

  • Gostyngiad o 42% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol  

  • Gostyngiad o 40% yn nifer y preswylwyr sy'n dweud bod plant a phobl ifanc yn yfed mewn mannau cyhoeddus yn broblem fawr iawn neu'n broblem eithaf mawr  

Dywed Kate Winstanley, Cyfarwyddwr CAP: “Rwy'n falch iawn ein bod yn gweld gostyngiadau cyson o’r fath mewn arferion yfed rheolaidd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc yn ardaloedd y CAP ledled y wlad. Mae CAPs yn cael effaith sylweddol ar leihau faint o alcohol y mae plant yn ei yfed, gwella eu hiechyd a'u lles a gwella'r cymunedau lle maent yn byw.”   

Gallwch lawrlwytho ein hadroddiad blynyddol yma  

Dilynwch ni