Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau mawreddog Nyrs y Flwyddyn, RCN Cymru

 

Cyflwynwyd gwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2021 i wyth nyrs o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn swyddogol yr wythnos hon i gydnabod eu gwaith rhagorol.

Cafodd Nyrsys a Bydwragedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyfanswm o bum buddugoliaeth a thri ail safle ar draws 15 categori yn ystod y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn rhithwir ar 10 Tachwedd 2021.

Mae’r digwyddiad mawreddog blynyddol hwn yn dathlu cyflawniadau rhagorol nyrsys a bydwragedd ar draws Cymru ac yn cydnabod eu dylanwad cadarnhaol ar ymarfer nyrsio a bydwreigiaeth a’r gofal maent yn ei ddarparu i unigolion a chymunedau.

Heddiw, gwnaeth Ruth Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio gyflwyno'r gwobrau yn bersonol gyda Charles Janczewski, Cadeirydd BIP Caerdydd a'r Fro, Richard Jones MBE, Cadeirydd, Bwrdd RCN Cymru a Diane Powles, Cyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio, RCN Cymru.

Yn dilyn y cyflwyniad, dywedodd Ruth: "Mae ymroddiad a phroffesiynoldeb ein holl staff nyrsio a bydwreigiaeth yn gwbl anhygoel a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu gwydnwch parhaus a'u gwaith caled drwy gyfnod eithriadol o heriol.

"Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i ymuno â Charles Janczewski, Richard Jones a Diane Powles o RCN Cymru i gyflwyno’r gwobrau i'n henillwyr teilwng iawn heddiw. Da iawn i bawb a enwebwyd a llongyfarchiadau unwaith eto i'n staff nyrsio sydd wedi mynd gam ymhellach yn eu rolau."

Llongyfarchiadau i Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2021, Kirsty John a dderbyniodd gydnabyddiaeth arbennig am ei gwaith gyda chydweithwyr yng Ngharchar EM Caerdydd, am arwain y system brofi ar gyfer yr holl ddynion sy’n cyrraedd y ddalfa a chreu canolfan frechu o fewn y carchar. Fe enillodd Kirsty y Wobr Nyrsio Gofal Sylfaenol hefyd.

Dywedodd Kirsty John, Prif Nyrs yng Ngharchar Ei Mawrhydi Caerdydd "Roedd yn anrhydedd mawr i mi gael fy enwebu yng nghategori Gofal Sylfaenol Nyrs y Flwyddyn ac ar gyfer Gwobr Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol. Cefais gymaint o sioc o fod ar y rhestr fer ac ennill, yn enwedig ar adeg lle mae cynifer o bobl wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol drwy gydol y pandemig. Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn fy mod wedi derbyn y gwobrau hyn ac i arddangos fy rôl mewn amgylchedd heriol."

 

Dyma'r enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

  • Gwobr Plant a Bydwreigiaeth – Enillydd, Katherine Fischer-Jenkins
  • Gwobr Uwch Nyrs a Nyrs Arbenigol - Yn ail, Sarah Rees a Paula Strong
  • Gwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru - Yn ail, Abigail Holmes
  • Nyrs Gofrestredig (Oedolyn) - Yn ail, Emily John
  • Gwobr Nyrsio Gofal Sylfaenol – Enillydd, Kirsty John
  • Gwobr Cefnogi Gwelliant drwy Ymchwil – Enillydd, Emma Williams
  • Gwobr Nyrsio Pediatrig Suzanne Goodall - Enillydd, Laura Truscott-Wright
  • Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2021 – Enillydd, Kirsty John

Mae'r gwobrau'n sicrhau bod staff gofal iechyd unigol yn cael eu cydnabod a'u gwobrwyo am eu gwaith i godi safon ymarfer nyrsio a gofal iechyd yn y DU. Mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor werthfawr yw'r cyfraniad nyrsio ym maes gofal iechyd ac yn dangos sut mae nyrsys yn cyfrannu'n gadarnhaol at ofal cleifion.

Dilynwch ni