Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Clinigol Arbenigol yn cael eu cydnabod am ddatblygiadau yn iechyd menywod

23.09.22

Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis (CNSs) yng Nghymru wedi ennill Gwobr Fferylliaeth Cymru am Ddatblygiadau yn Iechyd Menywod. Mae’r digwyddiad blynyddol yn gyfle i weithwyr fferyllol proffesiynol ar draws ystod amrywiol o ddisgyblaethau ddathlu arloesedd ac arfer gorau.

Roedd y wobr yn cydnabod datblygiad Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Rôl CNS yw gwella mynediad i wasanaethau i ferched a menywod.

Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob deg o fenywod a gall achosi poen difrifol, gan gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd merched a menywod y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt. Mae’r CNSs newydd yn gam cadarnhaol tuag at wella ymwybyddiaeth a diagnosis o endometriosis yng Nghymru. Mae'r nyrsys yn cydweithio i rannu arfer gorau ar draws y rhanbarth.

 

Beth yw symptomau endometriosis?

  • Poen yn rhan isaf y bol neu'r cefn (poen yn y pelfis) - fel arfer yn waeth yn ystod y mislif
  • Poen mislif sy'n atal rhywun rhag gwneud ei weithgareddau arferol
  • Poen yn ystod neu ar ôl rhyw
  • Poen wrth fynd i’r tŷ bach yn ystod mislif
  • Teimlo'n sâl, rhwymedd, dolur rhydd, neu waed yn yr wrin yn ystod mislif
  • Coesau poenus
  • Anhawster beichiogi (anffrwythlondeb)
  • Teimlo'n flinedig
  • Teimlo'n wan a/neu lewygu
  • Llawer o symptomau llai cyffredin eraill

 

Yn 2018, comisiynwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan Lywodraeth Cymru i asesu’r gwasanaeth a ddarparwyd a mynediad at ofal i ferched a menywod ag endometriosis yng Nghymru. Un o’r nifer o argymhellion oedd y byddai pob Bwrdd Iechyd yn cyflogi Nyrs Glinigol Arbenigol Endometriosis.

Prif nod y datblygiad hwn oedd gwella mynediad at reolaeth a chefnogaeth, a gwella’r gwasanaeth a ddarperir mewn gofal sylfaenol ac eilaidd - mae achosion o oedi cyn cael diagnosis wedi cael eu cynyddu gan y pandemig. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifrifoldeb effaith symptomau endometriosis. Mae'r CNSs yn gallu darparu mynediad cyflym at system adolygu a rheoli symptomau a darparu cysylltiadau ar gyfer cymorth.

Dywedodd Liz Bruen, Arbenigwr Nyrsio Endometriosis a Phoen yn y Pelfis, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sefydlu’r ddarpariaeth CNS endometriosis yng Nghymru: “Mae cael nyrsys penodedig ar gyfer endometriosis yn mynd i gael effaith wirioneddol ystyrlon ar bobl yr amheuir bod ganddynt endometriosis neu sydd wedi cael diagnosis o endometriosis yng Nghymru. Mae'n hysbys bod diagnosis o endometriosis yn gallu bod yn heriol ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r rhaglen hon ac rwy’n llawn cyffro i weld sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau ymhellach. Mae Gwobr Fferylliaeth Cymru yn dyst i’r gwaith sydd wedi digwydd i wneud hyn yn bosibl.”

Mae Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod Cymru (WHIG) wedi datblygu gwefan ar endometriosis i gleifion a chlinigwyr. Ewch i wefan Endometriosis Cymru am wybodaeth am endometriosis gan gynnwys dull olrhain symptomau ac offer diagnosis.

Dilynwch ni